Opsiynau Hygyrchedd

Defnyddiwch yr opsiynau isod i osod ymddangosiad y wefan hon er mwyn i chi ei ddarllen yn haws

Maint Testun Dewiswch eich maint testun ffafrir o'r opsiynau isod

  • A
  • A
  • A

Lliwiau Dewiswch eich lliw gwefan ffafrir o'r opsiynau isod

Languages

National Theatre Wales

Mae ein hymrwymiad i Gymru yn ymestyn y tu hwn i’w lleoliadau, ei chymunedau a’i thalent, at ei dyfodol. Mae pob penderfyniad a wnawn, boed yn rhaglennu, cynhyrchu, cyfathrebu neu weinyddu, yn destun prawf cynaliadwyedd trylwyr.

Rydym yn gweithio yn bennaf allan o swyddfa fach yng Nghaerdydd, felly mae’n gymharol hawdd rheoli ein heffaith o ddydd i ddydd; caiff ein staff eu hannog i feicio neu gerdded i’r gwaith, rydym yn defnyddio cludiant cyhoeddus fel blaenoriaeth wrth deithio o gwmpas y wlad, ac rydym yn cynllunio pob taith pan fydd rhaid i ni ddefnyddio cerbydau yn ofalus i leiafu ein heffaith. Rydym yn ailgylchu ac yn ailddefnyddio cymaint o ddeunydd â phosibl, ac yn defnyddio cynnyrch glanhau sy’n amgylcheddol briodol yn unig.

Yn y cyfamser, rydym yn archwilio ffyrdd i wella ein heffaith ar yr amgylchedd o safbwynt ein cynyrchiadau. Er enghraifft, mae defnydd setiau a chyfarpar yn y dyfodol yn sail i’n penderfyniadau wrth gynllunio cynhyrchiad. Nid ydym yn berchen ar gyfarpar nac adnoddau ein hunain, ond yn rhannu asedau gyda chwmnïau ac artistiaid eraill. Yn 2014, roeddem yn gallu dod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer 90% o’r deunyddiau o’n sioeau; dechrau da, ond y nod yw cyrraedd 100%.

Yn gryno mae gennym dri ymadrodd allweddol yr ydym yn eu defnyddio wrth gynllunio a gweithredu ein gwaith:

Cynllunio’n fwy gofalus

Rhannu’n fwy aml

Siarad â mwy o bobl

Os oes gennych unrhyw adborth neu syniadau ar sut y gallwn ni, ein hartistiaid a’n cynulleidfaoedd weithio gyda’n gilydd i fod yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol, cysylltwch â David Evans, Pennaeth Cynhyrchu, yn davidevans@nationaltheatrewales.org.