Opsiynau Hygyrchedd

Defnyddiwch yr opsiynau isod i osod ymddangosiad y wefan hon er mwyn i chi ei ddarllen yn haws

Maint Testun Dewiswch eich maint testun ffafrir o'r opsiynau isod

  • A
  • A
  • A

Lliwiau Dewiswch eich lliw gwefan ffafrir o'r opsiynau isod

Languages

National Theatre Wales

Helo, David Evans ydw i
Fy yw'r Pennaeth Cynhyrchu

Cyn ymuno â National Theatre Wales, roeddwn yn gweithio’n helaeth ledled y DU a thramor. Cydsefydlais Theatrical Solutions, cwmni cynhyrchu ac ymgynghori a oedd yn gweithio’n helaeth gyda chwmnïau yn y Dwyrain Canol, UDA ac uwchdiroedd ac ynysoedd yr Alban, ac ers 1999, rwyf wedi gweithio gyda Mathhew Bourne yn rheoli cynyrchiadau Swan Lake, The Car Man, Edward Scissorhands a Play Without Words.

Roeddwn hefyd yn Rheolwr Cynhyrchu ar gyfer The Dance Consortium, grŵp o theatrau sy’n gwahodd y cwmnïau dawnsio cyfoes gorau o ledled y byd i deithio o gwmpas y DU.
Yn dilyn ei agor yn Sydney, chwaraeais i ran sylweddol wrth ddod â Priscilla Queen of the Desert i’r West End yn ogystal â pharatoi ei pherfformiadau cyntaf yng Ngogledd America a Llychlyn.

Mae gennyf radd mewn Saesneg sydd yr un mor ddefnyddiol â thebot siocled.