Mae dwy o sioeau eiconig National Theatre Wales: The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price a Mametz gan Owen Sheers, nawr wedi'u cynnwys ar Faes Llafur Drama Safon A CBAC.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr sy'n astudio'r dramâu, mae'r timau creadigol oedd yn ymwneud â'r ddau gynhyrchiad wedi rhannu eu profiadau gyda ni, gan ganolbwyntio ar y cwestiynau canlynol:
1. Fel cyfarwyddwr pa benderfyniadau wnaethoch chi wrth gyflwyno'r ddrama i'w pherfformio, gan ganolbwyntio ar ryngweithio rhwng cymeriadau a symud?
2. Beth yw'r heriau wnaethoch chi eu hwynebu fel actor yn chwarae eich rôl, gan ganolbwyntio ar gymeriadu lleisiol a chorfforol, cymhelliant a rhyngweithio ag eraill?
3. Fel dylunydd, cyfarwyddwr neu reolwr cynhyrchu, pa ddulliau wnaethoch chi eu defnyddio o ran llwyfannu'r darn, gan ganolbwyntio ar y set, gwisgoedd, goleuo, sain a lleoliad cymeriadau?
Sgroliwch i lawr i ddarllen mwy am y sioeau, ac i weld pedwar fideo sy'n archwilio sut cafodd y cynyrchiadau eu gwneud.