Opsiynau Hygyrchedd

Defnyddiwch yr opsiynau isod i osod ymddangosiad y wefan hon er mwyn i chi ei ddarllen yn haws

Maint Testun Dewiswch eich maint testun ffafrir o'r opsiynau isod

  • A
  • A
  • A

Lliwiau Dewiswch eich lliw gwefan ffafrir o'r opsiynau isod

Languages

National Theatre Wales

TEAM Panel

Mae panel TEAM yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol National Theatre Wales gan gynghori ar faterion megis recriwtio, rhaglenni, marchnata a hyfforddi. Trwy adeiladu ar ein cyflawniadau dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r panel yn rhoi TEAM wrth wraidd y sefydliad. Mae aelodau’r panel yn ein cynrychioli mewn digwyddiadau a pherfformiadau ac yn mynd i gyfarfodydd ac yn rhoi cyflwyniadau ar ein rhan. Maent yn rhoi adborth rheolaidd i staff a bwrdd National Theatre.

Gan gwrdd fel grŵp rhyw deirgwaith neu bedair gwaith y flwyddyn, rydym bob amser yn chwilio am bobl ag amrywiaeth eang o sgiliau, gwybodaeth, syniadau, profiadau a chefndiroedd.