Opsiynau Hygyrchedd

Defnyddiwch yr opsiynau isod i osod ymddangosiad y wefan hon er mwyn i chi ei ddarllen yn haws

Maint Testun Dewiswch eich maint testun ffafrir o'r opsiynau isod

  • A
  • A
  • A

Lliwiau Dewiswch eich lliw gwefan ffafrir o'r opsiynau isod

Languages

National Theatre Wales
Medi 2018
Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro

The Tide Whisperer

National Theatre Wales
Ysgrifennwyd gan Louise Wallwein
Cyfarwyddwyd gan Kully Thiarai
Cynlluniwyd gan Camilla Clark

Profiad ymdrochol wedi’i ysgrifennu gan y bardd a dramodydd Louise Wallwein, mi fydd The Tide Whisperer yn mynd i'r afael â’r ffenomen byd-eang o ddadleoli a symudiadau torfol. Mae niferoedd uwch nag erioed yn symud ar draws y byd. Sut beth yw gadael eich cartref, i fyw gyda'r ansicrwydd efallai na fyddwch byth yn dod o hyd i un arall?

Mae The Tide Whisperer yn llawn straeon, yn fythol yn nomad, wedi teithio i'r cefnforoedd ac wedi cael ei gludo gan y llanw i lannau newydd braf.

Ar lannau Dinbych-y-pysgod, mae'r gynulleidfa yn casglu. Mae'r llanw yn troi'n gyflym ac mae storm yn dod. Mae'r dyfodol yn teimlo'n ansicr - mae dynoliaeth yn symud ac yn ceisio lloches. A fyddwn yn wynebu caredigrwydd neu’n cael ei gwrthod; yn cael cynnig lle diogel neu’n gorfod goroesi ar y môr peryglus, brawychus?

Bydd cynulleidfa The Tide Whisperer yn teithio o'r harbwr yn Ninbych-y-pysgod, ac yn archwilio arfordir Sir Benfro mewn cwch.

Delwedd: Y bardd a’r dramodydd Louise Wallwein yn harbwr Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Credyd: Dan Green / National Theatre Wales