Datganiad y Wasg - The Beach

Datganiad y Wasg - The Beach

Dyddiad Rhyddhau: Dydd Llun 14eg o Fehefin 2010

NATIONAL THEATRE WALES A HIDE&SEEK YN CYMRYD GÊMAU THEATR I LEFEL NEWYDD GYDA THE BEACH

BYDD PUMED CYNHYRCHIAD BLWYDDYN GYNTAF Y CWMNI YN ARCHWILIAD CHWAREUS, RHYNGWEITHIOL O GENHEDLAETH GOLL PRESTATYN

Beth sy'n gwneud i bobl adael eu tref enedigol, a beth wedyn sy'n gwneud iddyn nhw ddychwelyd? Beth sy'n digwydd iddyn nhw yn y cyfamser? Ym mhumed cynhyrchiad National Theatre Wales ym mis Gorffennaf, bydd tri actor ifanc nodedig yn creu gêm unigryw yn yr awyr agored ym Mhrestatyn, gogledd Cymru, gêm sy'n mynd i'r afael â phynciau difrifol.

Mae The Beach yn gêm theatr newydd-sbon, wedi'i chomisiynu gan National Theatre Wales, ar y cyd â Hide&Seek, un o gynllunwyr pennaf gêmau theatr. Mae gêmau theatr yn ddigwyddiadau rhyngweithiol lle mae profiad y gynulleidfa yn cael ei bennu gan eu dewisiadau nhw eu hunain. Rhoddir amcanion penodol i gyfranogwyr y maen rhaid iddynt eu cyflawni o fewn rheolau'r gêm. Chwarëusrwydd a naturioldeb yw'r geiriau allweddol.

Bydd y gêm yn dechrau ac yn gorffen ar y traeth ym Mhrestatyn. Bydd y gynulleidfa'n ffurfio timau o chwech, pob un â'i nodweddion penodol ei hun, ac fe fydd pob aelod yn derbyn cerdyn adnabod ag arno fanylion am eu rôl nhw'n unigol. Gofynnir i bob tîm gwblhau chwe thasg, pob un ar ran wahanol o'r traeth neu yn yr ardal gerllaw. Bydd y tasgau'n gyfuniad cyffrous o reswm, canfyddiad, cofio a chyflymdra. Er enghraifft, mae'n bosib y gofynnir i'r timau gymysgu coctêls mewn disgo tawel, cystadlu mewn ras neu baru wynebau cyfarwydd y dref â'u disgrifiadau.

Nod y gêm fydd dod â chenhedlaeth goll Prestatyn yn eu hôl, ac ateb y cwestiwn ‘beth fyddai'n dod â nhw yn eu holau’? Bydd y tîm â'r mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm yn cael y cyfle i gyflwyno eu syniadau nhw.

Crëwyd y sioe gan Rhiannon Cousins, Bethan Marlow a Carl Morris, ac fe'i cyfarwyddir gan Catherine Paskell.

Mae Rhiannon Cousins yn awdur sgriptiau o Aberhonddu. Ar ôl gweithio am bum mlynedd fel cyfarwyddwr cynorthwyol ym myd ffilm a theledu, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer y sgrin yn 2002 ar ôl ennill cystadleuaeth 'S4C yn 20 Oed' â'i sgript Bys Priodasol (Wedding Ring Finger), ffilm a gyfarwyddwyd ganddi hefyd. Ers hynny, derbyniodd Rhiannon gomisiynau gan S4C, BBC Cymru ac ITV, ac mae hi wedi ysgrifennu drama aml-blatfform ar-lein. Dyma ei gwaith cyntaf ar gyfer y theatr.
Mae Bethan Marlow yn ddramodydd ac awdur aml-blatfform. Fe'i magwyd ym Methel, gogledd Cymru. Hyfforddodd fel actor yn Llundain cyn dechrau ysgrifennu, a theithio i dde-ddwyrain Asia ac Affrica. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys Sgin Ti Gariad? (Sherman Cymru), KKK (RSC), Wales v England (Paines Plough's LATER) a Patroiophobia (Sherman Cymru). Mae ei gwaith ar-lein yn cynnwys Such Tweet Sorrow (RSC), Cei Bach (S4C) a Hatty Rainbow – drama ar-lein yr oedd a gynhyrchodd ar YouTube.
Mae Carl Morris yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel ymgynghorydd gyda chwmnïau sy'n defnyddio'r we i ddod o hyd i gymunedau a'u datblygu. Ef hefyd sy'n gyfrifol am Sleeveface, prosiect ffotograffiaeth byd-eang lle mae pobl yn cuddio rhannau o'u cyrff â chloriau recordiau feinyl. Mae ei flog personol i'w weld ar www.quixoticquisling.com

Mae Catherine Paskell yn gydymaith creadigol gyda National Theatre Wales ac yn gyfarwyddwr ffilm. Mae hi'n hanu'n wreiddiol o Gaerdydd. Hyfforddodd ar gwrs MFA Cyfarwyddo Theatr Birkbeck ac fe gynhyrchodd hi waith ar gyfer theatrau a chwmnïau teithiol sy'n cynnwys Oldham Coliseum, Lyric Theatre Hammersmith, Trafalgar Studios, Contact Manchester, Theatre 503, The Finborough, Tara Arts, Haddo House Opera, Baron's Court Theatre a'r Octagon Theatre Bolton, lle roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Preswyl.

Mae Hide&Seek yn stiwdio cynllunio gêmau sy'n arbenigo mewn dyfeisio ffyrdd newydd o chwarae. Roedden nhw'n gyfrifol am yr ŵyl gêmau treiddiol (pervasive) gyntaf yn Llundain yn 2007 – yr Hide&Seek Weekender erbyn hyn, sy'n cael ei gynnal bob haf yn y South Bank yn Llundain. Maen nhw'n gyfrifol am y Sandpit, cyfres o ddigwyddiadau ledled Prydain, a rhwydwaith ffyniannus o artistiaid, cynllunwyr gêmau a chwaraewyr, ac yn creu gêmau cymdeithasol a phrofiadau chwareus i gleientiaid yn y sectorau masnachol, cyhoeddus a diwylliannol.
www.hideandseek.net

GWYBODAETH AM BERFFORMIADAU

27 Gorffennaf – 1 Awst 2010
7yh (cyfarfod y tu ôl i Ganolfan Nova, ar lan y môr)
Prestatyn, Sir Ddinbych
Tocynnau £2

Swyddfa docynnau
Canolfan Gelfyddydau Scala, Prestatyn
Ffôn: 01745 850197
www.scalaprestatyn.co.uk

Noson y Wasg: Dydd Iau, Gorffennaf 29ain

Ar y cyd â Hide&Seek a Chanolfan Gelfyddydau Scala, Prestatyn

Crëwyd gan
Rhiannon Cousins

Bethan Marlow

Carl Morris

Cyfarwyddwyd gan
Catherine Paskell

Cynlluniwyd y gêm ar gyfer oedolion a phobl ifainc 14+

Hyd y gêm: 3 awr

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn yr awyr agored felly gwisgwch esgidiau a dillad addas, os gwelwch yn dda, a hufen haul hefyd os bydd angen.

Nodiadau i olygyddion
Roedd sefydlu cwmni theatr cenedlaethol iaith Saesneg i Gymru yn un o addewidion rhaglen Cymru'n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyfrannu nawdd gwerth £3 miliwn i National Theatre Wales dros gyfnod o dair blynedd.

Mae National Theatre Wales yn creu theatr fywiogus yn yr iaith Saesneg, wedi'i gwreiddio yng Nghymru â phersbectif rhyngwladol.

I gael mwy o wybodaeth am sioeau National Theatre Wales gallwch ymweld â: http://nationaltheatrewales.org