Datganiad y Wasg - Hydref/Gaeaf 2010
Datganiad y Wasg - Hydref/Gaeaf 2010
Dyddiad Rhyddhau: Dydd Mercher, 1 Medi 2010
NATIONAL THEATRE WALES YN CYHOEDDI MANYLION TYMOR YR HYDREF/GAEAF AR ÔL LLWYDDIANT RHYFEDDOL EI CHWE MIS CYNTAF
Ers i'r llen godi ar ddechrau'r cynhyrchiad cyntaf ym mis Mawrth, mae National Theatre Wales – cwmni theatr cenedlaethol iaith-Saesneg gyntaf Cymru – wedi cyflwyno chwe chynhyrchiad nodedig mewn lleoliadau godidog ar hyd a lled y wlad ac wedi ennill clod o bob cyfeiriad.
Gwerthwyd pob un o'r tocynnau ar gyfer pump o'r chwe chynhyrchiad cyntaf (gwerthwyd 84% o'r holl docynnau oedd ar gael);
Cynhyrchwyd gwaith mewn 10 o leoliadau gwahanol yng Nghymru, gan gynnwys pum sefydliad i lowyr, tref gyfan Y Bermo, traeth ym Mhrestatyn a maes tanio milwrol ym Mannau Brycheiniog;
derbyniwyd adolygiadau cenedlaethol hynod ffafriol:
“National Theatre Wales gets off to a cracking start” (The Daily Mail wrth sôn am A Good Night Out in the Valleys);
“a theatrical treat” (The Western Mail wrth sôn am Shelf Life);
“revelatory… its quality of bravura assurance astounds” (The Daily Telegraph wrth sôn am The Devil Inside Him);
“a triumph” (Buzz wrth sôn am For Mountain, Sand & Sea);
“a theatrical experience like no other… unique and unforgettable” (The Times wrth sôn am The Persians);
cynhaliwyd chwe Chynulliad rhad ac am ddim – digwyddiadau cyhoeddus lle'r aeth artistiaid a thrigolion lleol ati i ymdrin â phynciau o bwys mewn chwe chymuned;
prosiectau cydweithredol â chwmnïau theatr yn cynnwys Hide&Seek, Volcano a Opera Cenedlaethol Cymru, a chyfarwyddwr yn cynnwys Mike Pearson a Marc Rees, a thros 100 o artistiaid eraill;
denwyd cynulleidfaoedd newydd o bedwar ban Cymru a thu hwnt.
Yn awr, mae National Theatre Wales yn falch iawn o gyhoeddi manylion y tri cynhyrchiad nesaf: Love Steals Us From Loneliness, The Dark Philosophers a The Weather Factory (gweler y dogfennau atodedig).
I gael mwy o wybodaeth am National Theatre Wales neu unrhyw sioe arall i ddod, cysylltwch â Catrin Rogers: 029 20 353 070 / 07540 686 725 / catrinrogers@nationaltheatrewales.org
Standard
High Contrast
Plain