Datganiad y Wasg mis Mai
Datganiad y Wasg mis Mai
Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Iau 6ed Mai 2010
National Theatre Wales yn cyhoeddi manylion pellach ei dymor agoriadol:
• Cydweithio gyda chwmnïau theatr Told by an Idiot a WILDWORKS
• Digwyddiad llwyfan yng Ngŵyl y Gelli
• Y ddwy sioe gyntaf yn gwerthu allan
• Drama newydd ei darganfod gan John Osborne yn agor heno
Cyhoeddodd National Theatre Wales heddiw fwy o fanylion am ei dymor agoriadol 2010/11. Bydd cwmni theatr cenedlaethol mwyaf newydd Prydain yn cydweithio gyda’r gwneuthurwyr theatr blaengar Told by an Idiot ar yr addasiad llwyfan o waith Gwyn Thomas The Dark Philosophers, wedi’i gyfarwyddo gan Gyd gyfarwyddwr Artistig Told by an Idiot, Paul Hunter, yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd ym mis Tachwedd 2010, a bydd y cwmni arobryn Theatr Tirlun WILDWORKS yn ymuno â Michael Sheen ac Owen Sheers i greu Passion ym Mhort Talbot ym mis Ebrill 2011.
Bydd NTW hefyd yn destun digwyddiad llwyfan yng Ngŵyl y Gelli ar 30 Mai 2010, wedi’i gynnal gan Brif Feirniad Theatr y Guardian, Michael Billington, fydd yn trafod gwaith ac uchelgeisiau NTW gyda rhai o’r bobl y tu ôl i’w gynyrchiadau: Lucy Davies, (cynhyrchydd, NTW), Mike Pearson (cyfarwyddwr, The Persians) a Marc Rees (cyfarwyddwr artistig, For Mountain, Sand and Sea).
Yn ogystal, cadarnhaodd NTW bod ei ddwy sioe gyntaf, A Good Night Out In The Valleys, a Shelf Life, wedi gwerthu allan.
Mae cynhyrchiad diweddaraf NTW, The Devil Inside Him gan John Osborne, yn agor yr wythnos heno (6 Mai) yn Theatr Newydd, Caerdydd (noson i’r wasg 11 Mai).
Mae Told by an Idiot wedi sefydlu enw da rhyngwladol am ei gynyrchiadau hynod wreiddiol. Mae’r cwmni’n cynhyrchu gwaith sy’n deimladwy, yn gomig ac yn gwbl theatrig ac yn ymfalchïo mewn arddull berfformio dros ben llestri. Mae cynyrchiadau diweddar yn cynnwys: The Comedy of Errors (RSC), The Fahrenheit Twins Michael Faber (Drum Theatre Plymouth, Barbican ac Unity Theatre) Beauty and the Beast (Lyric Hammersmith a Warwick Arts Centre), Casanova (ar y cyd gyda Bardd y Frenhines Carol Ann Duffy ac wedi’i gyd-gynhyrchu gyda West Yorkshire Playhouse a Lyric Hammersmith) a The Firework-maker’s Daughter Philip Pullman (Sheffield Crucible).
Gan gymryd fel ysbrydoliaeth straeon comig du Gwyn Thomas, y cyfarwydd Cymreig gwych a chroniclwr doniol a thywyll y Cymoedd, mae The Dark Philosophers yn ddarlun doniol, treisgar, angerddol ac anarchaidd o gymuned yn byw ar ffin dynoliaeth.
Mae WILDWORKS yn cynhyrchu theatr tirlun unigryw mewn lleoedd heriol a gyda chymunedau anhygoel. Mae eu cynyrchiadau wedi’u lleoli mewn hen chwareli, pyllau gwag, ceiau pysgota gweithio, hen siopau adrannol, caer ddinesig Napoleonaidd a’r Green Line yng Nghiprys. Mae cryfder eu gwaith yn yr uno sy’n digwydd rhwng ymdeimlad cryf o le, pŵer pobl a dychymyg theatrig unigryw.
Ar gyfer Passion, mae un o feibion enwocaf Port Talbot, Michael Sheen, yn dychwelyd i’w dref enedigol i adfer traddodiad coll – drama’r ddioddefaint cymuned Port Talbot, oedd yn arfer cael ei llwyfannu bob blwyddyn yn y dref tan 1998. Gan weithio gyda’r awdur a bardd arobryn Cymreig Owen Sheers, ac wedi’i gefnogi gan actorion proffesiynol, dylunwyr rhyngwladol a cherddorion anhygoel, bydd Michael yn arwain preswylwyr ac ymwelwyr ym Mhort Talbot ar daith o ailddarganfod.
Wedi’i ddisgrifio gan Bill Clinton fel “the Woodstock of the mind”, mae Gŵyl Llenyddiaeth a’r Celfyddydau Y Gelli yn ŵyl lenyddol flynyddol a gynhelir yn y Gelli Gandryll, Cymru rhwng 26 Mai a 5 Mehefin 2010.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Sefydlu cwmni theatr cenedlaethol cyfrwng Saesneg i Gymru oedd un o ymrwymiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei rhaglen, Cymru’n Un. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales trwy gyfrannu £3 miliwn dros dair blynedd.
Mae National Theatre Wales yn creu theatr fywiogus yn y Saesneg, wedi’i gwreiddio yng Nghymru, gydag apêl ryngwladol
I gael mwy o wybodaeth am sioeau National Theatre Wales ewch i: nationaltheatrewales.org
Am fwy o wybodaeth am National Theatre Wales, neu unrhyw un o'i sioeau sydd ar y gweill, cysylltwch â Catrin Rogers, Swyddog y Wasg: 07540 686 725 / 029 2035 3077 / catrinrogers@nationaltheatrewales.org
Standard
High Contrast
Plain