Datganiad y Wasg - For Mountain, Sand & Sea

Datganiad y Wasg - For Mountain, Sand & Sea

BYDD PEDWERYDD CYNHYRCHIAD Y CWMNI - ‘FOR MOUNTAIN, SAND & SEA’ –- YN CAEL EI LWYFANNU LEDLED TREF GLAN MÔR Y BERMO, GOGLEDD CYMRU

TREF GLAN MÔR GYFAN FYDD LLWYFAN CYNHYRCHIAD NEWYDD NATIONAL THEATRE WALES

Syniad gwreiddiol Marc Rees, yr artist adnabyddus o Gymru, yw For Mountain, Sand & Sea. Bydd Marc, ynghyd â chriw o artistiaid Cymreig a rhyngwladol, yn llwyfannu’r gwaith mewn neuaddau eglwys, ar fryniau, ar draethau, meinciau a phontydd yn y Bermo o 25ain o Fehefin. Dyma fydd pedwerydd cynhyrchiad tymor agoriadol National Theatre Wales.

Beth am fynd ar drip go arbennig i’r traeth eleni? Cewch gyfarfod â thywyswragedd hudolus, telynorion dall, capteiniaid llong gerwin, ac eliffantod sydd wedi codi o farw’n fyw. Cewch grwydro bryniau hanesyddol a sleifio i mewn i ddisgos llawn mwg. Cewch eich cyfarch gan artistiaid o bedwar ban byd, wrth i chi ddarganfod lle mor unigryw yw’r Bermo.

Un o brif artistiaid Cymru, Marc Rees, sy’n gyfrifol am For Mountain, Sand and Sea. Mae storïau’r dref glan môr - yr atgofion, yr hanesion a myfyrdodau’r trigolion - wedi eu casglu a’u trawsffurfio’n brofiad creadigol atgofus. Ar y naill law mae’r cyflwyniad yn osodiad celfyddydol, ac ar y llall yn lle chwarae anturus; dewch â’ch esgidiau cerdded a’ch dillad glaw, neu rhowch wybod i ni os ydych am rywbeth mwy cymedrol.
Taith sy’n ymateb i nodweddion unigryw y Bermo sydd yn For Mountain, Sand and Sea; cewch ymgolli yn y lleoliad eithriadol yma, ac yn yr archif hanesyddol darluniadol byw a gasglwyd gan y gymuned leol.

Bydd y casgliad yn gweithredu fel catalydd i ddarganfod storïau ac i grynhoi hanes llafar y dref. Bydd yr hanesion, yr atgofion a’r myfyrdodau personol yma wedyn yn cael eu hail-ddychmygu a’u rhannu rhwng yr artistiaid er mwyn iddyn nhw roi bywyd newydd iddynt.
Cerflun cymdeithasol sy’n animeiddio’r archif fydd cychwyn y digwyddiad. Bydd y gynulleidfa wedyn yn cael ei harwain i lecynnau strategol; lleoliadau; adeiladau a chorneli sy’n gysylltiedig â’r archif a’r storïau, er mwyn taro ar berfformiadau byr gan yr artistiaid.

Mae’r artistiaid fydd yn cymryd rhan yn cynnwys: Benedict Anderson, Gareth Clark, Holly Davey, Marega Palser, Marc Rees, Cai Tomos, Guillermo Weickert, ac aelodau o’r gymuned leol.

Mae Marc Rees yn adnabyddus am ei waith celf ‘lliwgar’, llawn hiwmor, sy’n aml yn dehongli hanes, diwylliant a phrofiad personol mewn modd gwbl eithafol. Yn ogystal â gweithio gyda rhai o brif gwmnïau theatr corfforol Prydain (Brith Gof, Earthfall a DV8), cyflwynwyd ei waith ei hun gyda’i gwmni RIPE (Rees International Projects Enterprise) ar draws Ewrop a’r DU. Yn ddiweddar llwyddodd i ennill cais Cymru ar gyfer prosiect yr Olympiad Diwylliannol ‘Artistiaid ar y Blaen’, pan fydd yn cludo corff awyren DC9 ar draws Cymru fel gofod celfyddydol symudol.
Ymarferwr o Awstralia yw Benedict Anderson sy’n gweithio mewn pensaernïaeth, ffilm, dawns, dramatwrgi a senograffi. Mae wedi cynllunio ar gyfer bale, opera a dawns gyfoes, ac mae wedi cyd-weithio ar brosiectau gyda RIPE, Good Work Productions a choreograffwyr annibynnol. Mae e wedi bod yn dysgu pensaernïaeth a chynllunio ers 1994, gan ddal amrywiaeth o swyddi yn Ewrop ac Awstralia. Mae’n bartner cyswllt gyda Thinkbuild Architecture, Berlin, ac yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â chynllun ailddatblygu trefol strategol ar gyfer Asiantaeth Priffyrdd y DU.
Mae Gareth Clark yn gerddor a pherfformiwr sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae wedi teithio Ewrop, UDA a De Cymru gyda gwahanol fandiau, cyflwyniadau a phrosiectau unigol.

Mae Marega Palser yn ddawnswraig, yn artist a cherddor sy’n byw yng Nghaerdydd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio’n eang yn y DU, Ewrop a Siapan. Mae hi a Gareth eisoes wedi gweithio gyda’u gilydd fel Mr & Mrs Clark.

Bu Holly Davey yn astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain (1998). Mae wedi perfformio ac arddangos yn g39, Neuadd Dewi Sant a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, Galeri Mission yn Abertawe, a Gŵyl Greenwich, ac ennillodd wobr Artist Cymreig y Flwyddyn am Ffotograffiaeth yn 2006.

Bu Cai Tomos yn astudio dawns ym Mhrifysgol Cofentri. Wedi gadael y Brifysgol aeth i berfformio gyda Chwmni Theatr Gorfforol Earthfall. Teithiodd gyda’r cwmni am bedair blynedd gan berfformio yn “AD”, “I can’t stand up for falling down” a “at swim two boys”. Mae Cai wedi gweithio fel coreograffydd/cyfarwyddwr gydag Earthfall a Chwmni Dawns Diversions ar y daith llwybrau amgen. Cai yw cyd-sylfaenydd Prosiect Uru-Cymru, prosiect cydweithredol rheolaidd a gynhelir yn Montevideo, De America, pan fydd yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Martin Inthamossou. Mae Cai wedi cyflwyno dau ddarn pwysig o waith; “ breakdown” (2005) a “Gwyrth” (2007) fel rhan o Ŵyl Dawns Horizons yn Ne Cymru, ac fel rhan o’r Ŵyl Ddawns heb fod mewn lleoliadau anghonfensiynol, yn Uruguay.

Dawnsiwr, actor, cyfarwyddwr a choreograffydd o Sbaen yw Guillermo Weickert. Wedi’i hyfforddi yn y Centro Andaluz de Danza, mae wedi gweithio’n rhyngwladol gyda chwmnïau fel General Electica, Tanzcompagnie Rubato, Danat Danza, La Permanente, Errequewrre, Raquel Madrid, a Bikini.Ducc. Mae hefyd wedi cael ei wahodd i ddangos ei waith mewn nifer o wyliau rhyngwladol, gan gynnwys Box Nova (Lisbon), Tanec Praha (Prague), TanzWoche (yr Almaen), Em Pe de Pedra (Santiago de Compostela) a Festival Greg (Barcelona).

GWYBODAETH YMARFEROL

25 Mehefin – 10 Gorffennaf 2010
Mercher – Sul, 3pm
Y Bermo, Gwynedd
Tocynnau £10 /£5 gostyngiad;
i drigolion lleol, £5/£3 gostyngiad
Theatr Harlech
Ffôn: 01766 780667
Noson y Wasg: Mercher 30ain o Fehefin

Syniad gwreiddiol a goruchwyliwr y prosiect
Marc Rees
Cydweithredwr creadigol
Benedict Anderson
Cynhyrchydd creadigol
Siân Thomas
Artistiaid cydweithredol
Gareth Clark
Holly Davey
Marega Palser
Cai Tomos
Guillermo Weickert

Nodiadau i olygyddion

‘Roedd sefydlu cwmni theatr cenedlaethol Saesneg i Gymru yn ymrwymiad yn rhaglen Cymru’n Un, Cynulliad Llywodraeth Cymru. Mae Cynulliad Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru’n cefnogi National Theatre Wales gydag arian nawdd o £3 miliwn dros dair blynedd.

Mae National Theatre Wales yn creu theatr gyffrous yn yr iaith Saesneg, gyda’i gwreiddiau yng Nghymru, sy’n anelu’n rhyngwladol.