Datganiad y Wasg - The Persians
Datganiad y Wasg - The Persians
NATIONAL THEATRE WALES I LWYFANNU DRAMA GOROESOL HYNAF EWROP MEWN
PENTREF HYFFORDDI I'R FYDDIN BRYDEINIG
BYDD THE PERSIANS GAN AESCHYLUS YN MEDDIANNU SAFLE MILWROL ABERHONDDU AR GYFER CHWECHED CYNHYRCHIAD NATIONAL THEATRE WALES
Bydd un o gyfarwyddwyr mwyaf nodedig Cymru, Mike Pearson, yn rhoi bywyd newydd aflonyddol i ddrama hysbys hynaf Ewrop yng nghalon Ardal Hyfforddi Pontsenni, tirwedd milwrol dirgel sydd o'r golwg fel arfer i sifiliaid. Mae'r fersiwn newydd hon wedi'i hysgrifennu gan y dramodydd gwobrwyol Kaite O’Reilly.
Bydd Sian Thomas yn arwain cast o sêr o Gymru sy'n cynnwys Paul Rhys, Richard Harrington, Richard Lynch, Richard Huw Morgan, John Rowley, Gerald Tyler a Rhys Rusbatch.
Mae drama Aeschylus yn archwiliad rhyfeddol o uchelgais, antur a methiant ac yn drasiedi deuluol rymus. Mae'n adrodd hanes dychweliad y brenin Persiaidd Xerxes i'w famwlad ar ôl colli brwydr. Yn y fersiwn newydd hon, bydd Mike Pearson yn llwyfannu'r ddrama yng nghyd-destun cyfoethog canolfan hyfforddi milwrol ym Mannau Brycheiniog.
Ar gyrion mynydd Epynt ger Aberhonddu, mae yna bentref wedi'i hadeiladu gan y Fyddin Brydeinig – does neb yn byw yno. Brasfodel ydyw, lle mae milwyr yn hyfforddi i ymladd mewn cyd-destun dinesig. Am y tro cyntaf, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi caniatáu i National Theatre Wales ddefnyddio'r safle.
Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo ar hyd y parthau milwrol i bentref anghysbell Cilieni, lle byddan nhw'n gweld trasiedi The Persians yn cael ei hactio mewn cyd-destun cyfoes ingol. Mewn tai heb waliau, yng nghanol tanciau wedi llosgi'n ulw a hen fwledi, fe gyflwynir drama hynaf Ewrop.
Ymddangosodd Richard Harrington yng nghynyrchiadau Fiction Factory/Y Cwmni o ddramâu Ed Thomas, House of America, Gas Station Angel a Stone City Blue. Enillodd wobr BAFTA Cymru yn 1993 am ei berfformiad yn y ffilm Dafydd.
Mae Richard Lynch yn actor ffilm a llwyfan a ymddangosodd am y tro cyntaf yn ffilm Karl Francis, Milwr Bychan, ym 1986. Ers hynny, perfformiodd mewn dramâu teledu yn cynnwys Darklands a The Proposition.
Roedd Richard Huw Morgan yn aelod o'r cwmni theatr Cymreig Brith Gof rhwng 1990 a 1997. Ers 1996, mae ef a John Rowley wedi bod yn gyfrifol am good cop bad cop, cwmni perfformio aml-gyfryngol. Yn 2006, derbyniodd un o Brif Wobrau Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei brosiect Pharmakon – prosiect dwy flynedd lle aeth ati i greu map sonig o Gymru.
Chwaraeodd Paul Rhys ran Peter Mandelson yn ffilm Channel 4 The Deal yn 2003, ac yn ddiweddar ymddangosodd yn Luther ar BBC One. Perfformiodd mewn ffilmiau gan Robert Altman a Syr Richard Attenborough, ac ennillodd nifer o wobrau am ei waith ar lwyfan, gan gynnwys Gwobr Actor Gorau Barclays PMA yn 1999 am y brif ran yn Hamlet.
Gweithiodd John Rowley gyda Brith Gof am saith mlynedd ac mae e nawr yn berfformiwr cysylltiol gyda chwmni theatr arbrofol Forced Entertainment yn Sheffield. Mae e hefyd yn gyd-gyfarwyddwr cwmni perfformio good cop bad cop gyda Richard Huw Morgan. Cyfarwyddodd sawl ffilm fer wobrwyol i Channel 4 a BBC Cymru.
Hyfforddodd Rhys Rusbatch yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall ac ymddangosodd yn ddiweddar yn Merlin ar BBC One. Mae ei waith theatr yn cynnwys Our Class (National Theatre), a Ed Reardon’s Week ar BBC Radio 4. Yn gynharach eleni, roedd i'w weld yn perfformio yng nghynhyrchiad y Young Vic o Eurydice.
Ymddangosodd Sian Thomas yn Harry Potter and the Order of the Phoenix yn 2007, ac yn ddiweddar roedd i'w gweld ar lwyfan y sioe gerdd wobrwyol Spring Awakening yn y West End. Mae hi wedi gweithio gyda'r Royal Shakespeare Company ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys Macbeth, Hamlet, The Taming of the Shrew a King Lear, a gyda'r Theatr Genedlaethol yn Fram, The Wandering Jew a The Misanthrope. Mae ei gwaith blaenorol yn y West End yn cynnwys The Price, a'i gwaith ffilm a theledu yn cynnwys Luther, Midsomer Murders a Perfume. Enillodd Wobr Beirniaid Theatr yr Alban am ei rôl yn The Goat (Traverse) ac yn 2003, fe'i henwebwyd am Wobr Laurence Olivier am y Perfformiad Gorau mewn Rôl Ategol, am ei pherfformiad yn Up for Grabs.
Mae Gerald Tyler gynt yn aelod craidd o’r cwmni theatr corfforol Earthfall, ac yn fwy diweddar wedi creu cynhyrchiadau theatr annibynnol yn cynnwys Something’s Wrong with Abel a’r perfformiad theatre noir, safle-benodol, Big Hands. Mae e wedi cydweithio yn y gorffennol gyda Eddie Ladd, Volcano, Brith Gof, Marc Rees a Scottish Dance Theatre, ac i ddod mae prosiectau gyda Music Theatre Wales (In the Penitentiary), y gwneuthurwr ffilm Chris Nurse a’r cynhyrchydd Nerys Lloyd o Meme Films.
Bu Simon Banham (Cynllunydd) yn cynllunio ar gyfer y theatr ers 20 mlynedd. Roedd e gynt yn Bennaeth Cynllunio Contact Theatre ym Manceinion; mae e hefyd yn aelod-sefydlwr o gwmni perfformio ymchwiliol Quarantine. Ers 1998 bu'n dysgu yn Adran Ffilm, Theatr a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Mae Mike Brookes (Cynllunydd Cysyniadol) yn artist a chynllunydd a weithiodd gyda Brith Gof, Cardiff Laboratory Theatre, Moving Being a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Cydweithiodd â Mike Pearson ar nifer o brosiectau ac, yn 2007, fe'i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Enillodd John Hardy (Cyfarwyddwr Cerddorol) bedair gwobr BAFTA Cymru ac fe gyfansoddodd gerddoriaeth y ffilm Hedd Wyn (a enwebwyd am Oscar), nifer o ddramâu Ed Thomas, gan gynnwys House of America, a derbyniodd gomisiynau gan Music Theatre Wales, cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Eleni, fe'i penodwyd yn Bennaeth Cerddoriaeth Gyfoes Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru.
Mae Kaite O'Reilly yn awdur a dramodydd gwobrwyol. Cynhyrchwyd ei gwaith yn eang, yn y DG ac yn rhyngwladol. Yn ddiweddar, derbyniodd un o'r Unlimited Commissions cyntaf, rhan o'r Olympiad Diwylliannol, i ddatblygu gwaith newydd ledled y DG tan ddiwedd Gêmau Olympaidd Llundain yn 2012.
Mae Mike Pearson (Cyfarwyddwr) yn adnabyddus yn bennaf am ei waith gyda'r cwmni theatr arloesol ac ysbrydoledig Brith Gof, oedd yn arbenigo mewn gwaith safle-benodol. Mae e'n Athro Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Mared Swain yn gweithio ochr yn ochr â Mike Pearson yn rhan o Gynllun Cyfarwyddwyr Newydd National Theatre Wales. Hyfforddodd Mared fel actor yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Ers graddio, gweithiodd fel actor gan mwyaf ac ers 2007 bu'n cyd-gynhyrchu gyda chwmni theatr Dirty Protest.
THE PERSIANS
11 – 21 Awst 2010
Fersiwn newydd o ddrama glasurol Aeschylus, gan Kaite O’Reilly
Wedi'i chyfarwyddo gan Mike Pearson
Cynllun cysyniadol gan Mike Brookes
Cynllunio gan Simon Banham
Cerddoriaeth gan John Hardy
Cast llawn yn cynnwys Rosa Casado, Richard Harrington, Richard Lynch, Richard Huw Morgan, Rhys Rusbatch, Paul Rhys, John Rowley, Sian Thomas a Gerald Tyler.
Pentref Cilieni, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Bannau Brycheiniog, Powys
Tocynnau o £10.00
Theatr Brycheiniog, Ffôn 01874 611 622
NODWCH OS GWELWCH YN DDA: Er y bydd seddi ar gael i'r gynulleidfa, mae safle'r cynhyrchiad yn yr awyr agored. Dewch â dillad ac esgidiau addas gyda chi, os gwelwch yn dda.
Cyflwyniad i'r Cyfryngau: Dydd Llun 9fed o Awst (amser i'w gadarnhau)
Noson y Wasg: Dydd Iau 12fed o Awst
Nodiadau i olygyddion
Roedd sefydlu cwmni theatr cenedlaethol iaith Saesneg i Gymru yn un o addewidion rhaglen Cymru'n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyfrannu nawdd gwerth £3 miliwn i National Theatre Wales dros gyfnod o dair blynedd.
Mae National Theatre Wales yn creu theatr fywiogus yn yr iaith Saesneg, wedi'i gwreiddio yng Nghymru â phersbectif rhyngwladol.
I gael mwy o wybodaeth am sioeau National Theatre Wales gallwch ymweld â: nationaltheatrewales.org
Standard
High Contrast
Plain