News Story
“Mae [angladdau yn Butetown] yn fwy o ddigwyddiad cymunedol, yn hytrach na digwyddiad teuluol.”
Beth sy'n gwneud angladd Butetown yn unigryw?
Mae ein sioe Circle of Fifths yn talu teyrnged i angladdau yn Butetown, cymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, a sut mae’r digwyddiadau hyn yn cynrychioli un o draddodiadau hirsefydlog y gymuned glos hon yng Nghaerdydd.
Cyfarfu Zach, Cydlynydd Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu NTW, â'r Tad Dean sy’n chwarae rhan yn rhai o angladdau Butetown fel offeiriad Eglwys y Santes Fair. Gofynnon ni iddo beth sy'n gwneud angladdau yn Butetown yn nodedig.
Yn y cyfweliad sain hwn, mae'n esbonio sut mae angladdau yn "ddigwyddiad cymunedol", yn sôn am "barodrwydd pobl i roi'r molawd" a sut mai Betty Campbell, actifydd cymunedol Cymreig o Butetown a phrifathrawes ddu gyntaf Cymru, oedd y person cyntaf i gysylltu â hi o ran molawdau, gan ei bod wedi gweld cymaint o bobl yn tyfu i fyny yn y gymuned.
Gwranda ar y cyfweliad isod neu darllena'r trawsgrifiad.
Gwybodaeth am y cynnwys: Mae'r cyfweliad hwn yn cynnwys cyfeiriadau at farwolaeth ac angladdau.