News Story
Tro’r cloc yn ôl i 2020. Roedden ni i gyd yn ceisio ymdopi, ond mewn gwirionedd, roedden ni wedi ein parlysu, braidd. Roedden ni’n ceisio dod i ben â sioc y cyfnod clo, a llawer yn gorfod deall sut i weithio gartre’ yn ogystal â rhoi addysg i’r plant.
Fe fuon ni’n siarad am hyn gyda Nigel Barrett a Louise Mari, dau artist sydd byth yn brin o syniadau. Fe fuon ni’n trafod arwyddocâd plant yn profi rhywbeth na allai oedolion roi map iddyn nhw’i ddilyn - y cyfan yn newydd, yn ddieithr, weithiau'n frawychus, weithiau'n ddiflas iawn.
Mae rhywbeth arbennig am Nigel a Louise a'u gwaith; maen nhw’n llawn cynhesrwydd a rhyfeddod ac maen nhw’n hoff o ddangos prydferthwch a gwallgofrwydd y byd inni. Maen nhw'n ein hatgoffa ni bod yna blentyn ym mhob un ohonon ni.
Roedd eu syniad yn brofiad a allai greu teimlad o ryddid a llawenydd unwaith eto yn ein plant. Eu grymuso nhw i wneud synnwyr o'r byd o’u hamgylch, gan greu ac adeiladu pethau trwy chwarae dychmygus, anhrefnus a dirwystr. Fyddai dim hawl gan oedolion i fod yno, a’r plant a fyddai’n gosod y rheolau.
Rydyn ni'n gofyn llawer gan y genhedlaeth hon o blant - rydyn ni'n gobeithio mai nhw fydd y rhai sy'n gallu meddwl a gwneud pethau'n wahanol. Er mwyn ein hachub ni rhag y llanast rydyn ni wedi'i greu.
Chwarae fydd yn gosod y sylfeini ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf o ddyfeiswyr, arloeswyr a chrewyr. Ac fe all y theatr wneud ei ran yn hyn o beth. Dyna beth yw theatr, yntê - chwarae ac adrodd straeon?
Dyna pam fod Treantur yn ein hysbrydoli ni. Dydyn ni ddim yn gymdeithas sy'n adnabyddus am ein gallu i wrando a dysgu gan ein plant. Ond efallai fod angen newid hynny. Rhoi cyfle iddyn nhw ddangos i ni beth sy'n bosibl, a gweld i ble mae hynny’n ein harwain ni ...
Felly dros benwythnos gŵyl y banc fis Awst, fe wnaethon ni bentyrru cardfwrdd, ffabrig, paent, unrhyw beth y gallen ni ddod o hyd iddo yn ein cwpwrdd propiau ... a gadael i blant y Drenewydd roi eu dychymyg ar waith.
Adeiladwyd cestyll. Agorodd siopau. Fe ddaeth teigrod i amharu’n ddigywilydd ar etholiadau’r maer. A dyna lle’r oedd yr oedolion yn pori trwy gopïau o’r National Geographic gan wrando'n astud o'r tu allan. Gydol yr amser, bu Nigel a Louise yn gofyn cwestiynau ac yn gwrando ar yr hyn roedd gan y plant i'w ddweud.
Dim ond dechrau pethau yw hyn i Dreantur. Fe fyddwn ni yn ôl yn y Drenewydd y flwyddyn nesaf ac yn mentro ymhellach i ffwrdd hefyd. Mae'r cyfan yn golygu creu theatr, ond efallai ddim mewn ffordd sy’n gyfarwydd iti… eto.