News Story
Mae’r cyhoeddiad heddiw am ein cais llwyddiannus ar gyfer Festival UK* 2022 yn ganlyniad llawer iawn o waith a dychymyg; alcemi cyfoethog o feddyliau a safbwyntiau creadigol yn dod ynghyd i freuddwydio gweledigaeth o rywbeth anhygoel.
Dros y tri mis diwethaf rydym wedi cael y fraint o weithio gyda grŵp o bobl a sefydliadau arbennig ar draws disgyblaethau, profiadau bywyd ac ardaloedd yng Nghymru. Gyda’n gilydd rydym wedi archwilio sut y gallem ailfeddwl ac ail-lunio sut y gallai prosiect creadigol cenedlaethol ar y raddfa hon gael ei greu ar gyfer pobl Cymru. Gyda phartneriaid yn amrywio o lawr gwlad i lywodraeth; gyda chymunedau, artistiaid, gwyddonwyr a thechnolegwyr yn ganolog iddo, mae hwn yn brosiect ar gyfer cynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang. O’r cychwyn cyntaf mae’r broses o ffurfio tîm a rhwydwaith ehangach i gyflawni’r cam Ymchwil a Datblygu wedi bod yn hynod gyfoethog. Mae wedi ein cysylltu â phartneriaid, arferion, safbwyntiau a phrofiadau byw newydd mewn ffyrdd rhyfeddol ac egnïol.
Mae’r brîff ar gyfer ein cam Ymchwil a Datblygu wedi ein hannog i wneud pethau’n wahanol, wedi’n cefnogi gan ysbryd agored a heriol. Mae’r trylwyredd, yr uchelgais a’r cymhlethdod y mae’r holl bartneriaid wedi’u cyflwyno i’r prosiect wedi bod yn ysbrydoledig, ac rydym yn llawn cyffro o ran datblygu’r partneriaethau hyn ymhellach. Mae posibiliadau prosiect o’r math hwn yn enfawr ac rydym yn anelu at ymgorffori a thynnu ar ysbryd a hunaniaeth radical, gydweithredol a blaengar Cymru fel cenedl.
Fel National Theatre Wales, rydym am ddefnyddio’r foment hon i gydnabod y bydd y cyhoeddiad heddiw yn arwain at wrthdaro neu siom i lawer o bobl. Rydym yn deall ac yn parchu’r amheuon sydd gan lawer ynglŷn â tharddiad yr Ŵyl, y cyd-destunau gwleidyddol y mae wedi tyfu ac esblygu ohonynt ac yn cydnabod bod y rhain i lawer yn gysylltiedig â naratifau gwrth-fewnfudwyr annerbyniol sy’n ymwneud â Refferendwm yr UE. Mae’r amheuon hyn wedi’u lleisio o fewn ein Cwmni, a thrwy ein teulu ehangach trwy TEAM, yn ogystal ag aelodau o’r sector creadigol ehangach. I bawb sydd wedi estyn allan atom ni i rannu eu pryderon am ein penderfyniad i gyflwyno cais, diolch i chi am ddod â didwylledd a gonestrwydd i’n trafodaethau. Maent wedi ein helpu i feddwl yn ddwfn am sut y gall y prosiect hwn ymateb i’r hinsawdd sydd ohoni a byddant yn parhau i fod yn hanfodol wrth lunio dull NTW tuag at y gwaith hwn. Mae’r sgyrsiau hyn, ar brydiau, wedi bod yn anghyfforddus ac yn heriol, ond yn y pen draw bob amser yn gysylltiol, ac wedi eu cynnal gyda dealltwriaeth o gymhlethdodau’r rôl rydym ni’n ei chwarae fel Cwmni Cenedlaethol. Mae’n hanfodol bod y cyfathrebu hwn yn parhau wrth inni symud ymlaen, felly daliwch ati i gysylltu a rhannu eich barn gyda ni.
Yr hyn sydd wedi bod yn gwbl clir ynghanol y sgyrsiau hyn, yw’r gred gref bod theatr, yn wyneb rhannu a pholareiddio, yn meddu ar y pŵer i ddod â phobl ynghyd i geisio cysylltiad, ac empathi. Mae uno cymunedau mewn cyd-ddealltwriaeth ac ymdeimlad cyffredin o berthyn yn gam tuag at frwydro yn erbyn yr elyniaeth a’r ymraniad y mae llawer o bobl wedi’i brofi ers refferendwm yr UE. Rydym ni’n credu y gall theatr wneud hyn. Mae honno’n rôl rydym ni’n teimlo y gallwn ni ei chwarae fel National Theatre Wales.
Ochr yn ochr â phosibiliadau cadarnhaol enfawr y math hwn o brosiect, mae ein cred yn ein cyfrifoldebau fel Cwmni Cenedlaethol wedi gyrru ein cais i arwain un o ddeg prosiect Festival UK* 2022. Dros y 12 mis diwethaf mae’r sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru wedi wynebu argyfwng parhaus o ganlyniad i Covid-19, gyda’r gymuned lawrydd greadigol – ffynhonnell fyw ein diwydiant – yn cael ei tharo galetaf. Mae cynulleidfaoedd a chymunedau Cymru wedi colli cyfleoedd i gymryd rhan mewn enydau a rennir o weithgarwch diwylliannol a mynegiant creadigol. Ni allwn ragweld yn llawn effeithiau meddyliol a chymdeithasol parhaus y pandemig mewn blynyddoedd i ddod, ond gall un peth fod yn sicr; ni fu mynediad at ddiwylliant a chreadigrwydd erioed yn fwy hanfodol i gydnerthedd ac adferiad meddyliol ac emosiynol ein cenedl. Mae buddsoddiad o’r maint hwn yn rhoi cyfle i helpu i adfywio ein tirwedd ddiwylliannol ar adeg dyngedfennol, ac mae arwain ar y prosiect Cymru gyfan hwn yn cyflawni’r hyn y credwn y dylai rôl Theatr Genedlaethol fod i’w chynulleidfaoedd a’i chymuned greadigol. Yn sgil y buddsoddiad hwn daw cyfleoedd am gyflogaeth a datblygiad creadigol, y cyfle i roi llwyfan i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol wrth ehangu cyfleoedd i bobl Cymru gymryd rhan mewn profiadau creadigol cysylltiol, creadigol a rennir. Byddwn yn dathlu ein hamrywiaeth gyfoethog, yn dod â phobl ynghyd i ymladd syniadau a naratifau rhwygol a dychmygu dyfodol tecach, mwy cyfartal gyda’n gilydd. Mae datblygu cwmpas ein sector ar gyfer partneriaethau traws-sector ac adeiladu mwy o gyfleoedd ar gyfer trawsffrwythloni yn amcanion allweddol y gwaith hwn.
Wrth wraidd y cyfan mae cynnig i bobl Cymru weld eu hunain, eu cymunedau a’u dyfodol unigol a chyfunol yn cael eu hadlewyrchu trwy lens o optimistiaeth greadigol, yn fodd i ddatgloi dychymyg a gobeithio am y dyfodol gorau posibl gyda’n gilydd.
Darganfod mwy am Festival UK* 22 a Casgliad Cymru dan arweiniad NTW, yma.
* teitl dros dro
Delwedd: Sugar Collective.