News Story
Nid ar chwarae bach mae bod yn Gadeirydd sefydliad cenedlaethol.
Mae Clive wedi arwain NTW trwy gyfnod o newid enfawr. Ar ôl tymor chwe blynedd trawiadol, mae’n amser bellach i ni ffarwelio, gyda rhai geiriau olaf gan Lorne:
“Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Clive yn ystod fy 3 blynedd yn y swydd; fy wythnos gyntaf oedd yr union un yr aeth y wlad i mewn i gyfnod clo ynddi. Dyma ni nawr mewn byd cymharol ôl-Covid - yn edrych ar dymor newydd o waith i NTW - sydd ond yn bosibl gyda chefnogaeth ac arweiniad gwych Clive. Rydyn ni'n diolch i Clive am bopeth y mae wedi'i wneud a'r ymrwymiad y mae wedi'i ddangos i'r cwmni. Dymunwn y gorau iddo.”
Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Clive i glywed am rai o'i uchafbwyntiau yn y swydd. Dyma beth a rannodd:
‘“Mynd dros y dibyn” o ysgubor y tu allan i Frynbuga i weld cast gwych yn portreadu’r frwydr beryglus gafodd ei hymladd gan filwyr Cymreig yn Mametz yn y Rhyfel Byd Cyntaf wnaeth fy nghyflwyno i waith National Theatre Wales go iawn.
Roedd yn gariad ar yr olwg gyntaf.
Felly, roedd yn amhosib dweud na pan ofynnwyd imi ymuno â bwrdd NTW a dod yn Gadeirydd arno.
Ardaloedd Dinbych-y-pysgod, Caerdydd, Cwm Ebwy a Sirhywi - lle ges i fy magu - yw fy nghynefin arferol. Roedd NTW yn golygu y des i'n gyfarwydd eto â’r Rhyl, Wrecsam, Aberystwyth, Blaenau Ffestiniog, Talacharn, Abertawe, Casnewydd, Caerfyrddin a Maenorbyr, ymhlith llawer o leoedd eraill.
Roedd Kully Thiarai, ein Cyfarwyddwr Artistig ar y pryd, hyd yn oed wedi gosod corws Tide Whisperer yng ngardd ein tŷ ni ar ben y glogwyn. Ond traethau, harbwr a chychod Dinbych-y-pysgod oedd yr atyniad i adrodd ei hanes syfrdanol am gyflwr ffoaduriaid yr unfed ganrif ar hugain.
Yn fy amser ar y bwrdd yn NTW, rydyn ni wedi dringo mynyddoedd, wedi darganfod lleoliadau cerddoriaeth aeth yn angof ym Mhowys, ac wedi sefyll mewn meysydd parcio aml-lawr oedd braidd yn ddi-raen; blaenau siopau; gwaith copr segur; cestyll canoloesol; strydoedd dinas glawog, ac ar waliau harbwr, a chael ein cludo i'r môr mewn llongau i wylio perfformiadau. Rydyn ni hyd yn oed wedi eistedd mewn ambell sedd theatr yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Llundain.
Yn Theatr y Royal Court yn Llundain dan ei sang y gwelais i waith gwych Ed Thomas On Bear Ridgeam yr eildro ar ôl ei gyfnod llwyddiannus yn y Sherman. Drama wych, ysgrifennu gwych, actio gwych… beth arall all unrhyw un ei eisiau?
Ac yna roedd gwaith hynod deimladwy Rachel Trezise We’re Still Here yng nghysgod Gweithfeydd Dur mawreddog Margam. Lle gwnaeth gweithiwr dur, a oedd wedi actio unwaith yn unig o'r blaen mewn clwb gweithwyr, bron â rhoi cast gwych o actorion proffesiynol yn y cysgod.
Hynny i gyd, a’r pandemig a’n gorfododd ni i fynd ar-lein i gadw’r theatr yn fyw. Fodd bynnag, fe wnaeth ganiatáu ar gyfer ffilmiau fel yr hyfryd FRANK a gyflwynwyd gan y Jones Collective … teimladwy, pryfoclyd, dyfeisgar ac eironig. O ystyried ein bod wedi bwriadu ei llwyfannu mewn lleoliad coetir Cymreig ar gyfer cynulleidfa fyw nes i Covid ymyrryd. Fe wnaethon ni oroesi gyda'n gilydd a symud ymlaen.
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n colli sioeau nesaf NTW. Ac edrychwch allan am ddyn sy'n dechrau mynd yn foel gyda gwallt gwyn, mi fydda i yno.”
Gan bawb yn NTW, rydyn ni'n estyn diolch enfawr am yr holl waith, doethineb a gofal y mae wedi'u rhoi cwmni.