News Story

Isod gallwch gwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a fydd yn dod â Joy Club ynghyd ar gyfer deg cyfranogwr yn 2025.

Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.

Justin Teddy Cliffe

Rwy'n gwneud theatr; ar lwyfannau ac mewn mannau eraill. Rwy'n gwneud hyn oherwydd fy mod yn meddwl nad oes llawer o bethau mwy pwerus na phrofiad a rennir a digwyddiad byw. Yn National Theatre Wales byddaf yn parhau i wneud gwaith, tra hefyd yn cefnogi artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i archwilio gwaith newydd. Gyda ffocws ar gefnogi artistiaid sy'n dod i'r amlwg sy'n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli yn y sector, rydw i'n barod i gyfarfod, sgwrsio a darganfod a all NTW gefnogi'ch uchelgais a'ch syniadau, a sut.

Mae popeth da yn dechrau gydag uchelgais a syniadau, ac rwy'n hoffi bod yn rhywun sy'n helpu pobl i ddarganfod sut i gyfuno'r ddau beth hynny. Wrth imi barhau i wneud gwaith sy'n cysylltu pobl mewn ffyrdd unigryw, rwyf am gefnogi eraill i wneud yr un peth. Trwy gyd-greu, newid, gwneud, cyfathrebu a rhoi cynnig arni, gallwn wneud i bob math o bethau rhyfeddol ddigwydd.

O fewn fy rôl fel Cydymaith Creadigol, byddaf yn cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg sy’n byw yng Nghaerdydd, ac sy’n teimlo nad oes cynrychiolaeth ddigonol iddynt yn y celfyddydau. Gall 'dod i'r amlwg' olygu llawer o bethau gwahanol, felly chi sydd i benderfynu os a sut y gallech fod yn dod i'r amlwg. Nid oes angen i chi fod wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol na phrofiad penodol, rydym yn awyddus i gysylltu â phobl sy'n rhagweld y bydd ganddynt ddyfodol yn y theatr, neu sydd â stori/ennyd/teimlad/profiad y maent am ei rannu ag eraill, a hynny nawr.

I mi, mae theatr yn ymwneud â risg a phrofiad a rennir. Pan fydd yn gweithio, mae'n ein cysylltu mewn ffyrdd na all ffurf arall ar gelfyddyd ei wneud.

Dr Annie Beyer

Mae Dr Annie Beyer (CPsychol, DCounsPsy, PgCert, PgCert Dyniaethau (Open), BSC(Anrh)), yn Seicolegydd Siartredig, yn Seicolegydd Cwnsela cofrestredig gyda'r HCPC ac yn Gadeirydd presennol yr Is-adran Seicoleg Cwnsela yng Nghymru. Mae gan Annie gefndir clinigol mewn iechyd meddwl oedolion ar ôl treulio dros ddeuddeg mlynedd yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl Gofal Eilaidd ledled Cymru a Lloegr. Ar hyn o bryd mae hi’n Uwch Ddarlithydd ar y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Beyer Psychology Services, practis annibynnol lle mae'n darparu goruchwyliaeth glinigol, addysgu, hyfforddi ac ymgynghori.

Mae gan Annie ddiddordeb arbenigol mewn creadigrwydd ac arloesedd, gyda ffocws arbennig ar ddeall a defnyddio creadigrwydd wrth ymarfer Seicoleg, ac ar archwilio’r cyfraniadau amrywiol y gall seicoleg eu gwneud i sefydliadau ac i’r celfyddydau. Y diddordeb trawsddisgyblaethol hwn sydd wedi arwain at waith Annie gydag artistiaid a chymunedau creadigol, gan ddod â gwybodaeth, theori a sgiliau ymarferol y proffesiynau seicolegol i'w helpu i gysyniadu, cynllunio a gwerthuso effaith eu gwaith.

Gweler gwaith Annie yma.

Charlotte Lewis

Mae Charlotte yn gyfarwyddwr theatr rhyngwladol gyda sawl blwyddyn o brofiad ac mae hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd, gan helpu unigolion i siarad yn hyderus. Mae hi’n llawn cyffro i fod yn cydweithio gyda’r tîm yn Joy Club ac fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar y prosiect, i arbrofi a chreu sesiynau i’r cyfranogwyr.

Yn ogystal â’i gwaith gyda’r sesiynau, bydd ffocws Charlotte ar y prosiect hwn yn cynnwys creu rhaglen ddogfen sain, sy’n anelu at ddathlu’r broses ac ysbrydoli eraill i ddod o hyd i lawenydd yn eu bywydau eu hunain.

Frank Thomas

Mae Frank wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau o fewn y celfyddydau ers dros ddegawd. Yn gynnar yn ei yrfa, canolbwyntiodd Frank ar greu celf ddifrifol, wedi'i ysgogi gan awydd i brofi ei hun fel artist difrifol. Yn ystod y cam hwn roedd ei waith yn canolbwyntio ar emosiynau dwys fel galar, a phynciau mawr fel gwleidyddiaeth a'r amgylchedd. Dros amser, dechreuodd symud ffocws, gan ddod i werthfawrogi gwerth celf sy'n dathlu hwyl, gwiriondeb, ac, wrth gwrs, llawenydd.

Bydd Frank yn ymuno â Joy Club fel Dramaydd, a’i rôl fydd cynorthwyo gyda’r gwaith o greu a hwyluso’r digwyddiadau y bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan ynddynt. Yn ogystal, bydd yn cymryd golwg ehangach ar y prosiect, gan werthuso ei gryfderau a'i wendidau er mwyn helpu i lunio ei ddyfodol a sicrhau bywiogrwydd parhaus Joy Club.