News Story

Mae gallu cyfathrebu ac adrodd straeon mewn mwy nag un iaith, yn ein barn ni, yn uwch-bŵer.

Yn Petula, mae’r awdur Daf James yn asio Cymraeg, Saesneg ac ychydig o Ffrangeg i greu rhywbeth sy’n gwbl unigryw (ac mae isdeitlau wrth law bob amser i helpu pan fyddwch chi eu hangen). Gwnaeth inni feddwl am bŵer iaith ac adrodd straeon, a sut y gall ein cysylltu.

Felly, gyda hyn mewn golwg, rhoesom gyfle i dri pherson ifanc creadigol o Brifysgol Caerdydd, pob un yn fyfyrwyr ôl-raddedig ar y cwrs MA Rhaglenni Dogfen Digidol, i greu eu rhaglenni dogfen byr eu hunain yn archwilio thema dwyieithrwydd. Yma rydym yn datgelu mwy am bob gwneuthurwr ffilm ac yn rhannu eu gwaith.


Aeth Dewi o Orllewin Cymru i Oasis yng Nghaerdydd - elusen i ffoaduriaid a cheiswyr lloches - i gyfweld â Joseph Gnagbo, ffoadur o'r Arfordir Ifori sy'n defnyddio ei sgiliau iaith er mwyn addysgu.

“Rwy’n mwynhau arddangos gwahanol isddiwylliannau trwy fy rhaglenni dogfen. Roeddwn i eisiau cyfweld â Joseph i ddathlu amlieithrwydd, i ddod â phobl o wahanol ddiwylliannau at ei gilydd ac i atgyfnerthu bod croeso i ffoaduriaid yng Nghymru.

Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig dangos ei bod hi’n bosib dysgu ail iaith (neu drydedd, neu bedwaredd!) a thrwy wneud hynny, byddwch chi’n dod i ddeall diwylliannau eraill yn well.”


Croesodd Deio o Fôn y ffin a theithio i Lundain. Yno, cyfarfu ag Owain, Canwr Clasurol o Landeilo ac Ifan, Cyfansoddwr a Phrif Ganwr Gwilym o Fôn. Gwrandewch arnyn nhw'n trafod creu ac ysgrifennu cerddoriaeth ar draws gwahanol ieithoedd.

“Rwy'n wneuthurwr ffilmiau ar ddechrau fy ngyrfa ac yn archwilio gwahanol ffyrdd o wneud ffilmiau - nid wyf wedi dod o hyd i arddull ddiffiniol eto ac rwy'n mwynhau arbrofi'n fawr. Roeddwn i eisiau rhannu'r stori hon i ddangos y cyfleoedd sy'n dod yn bosibl pan fyddwch chi'n siarad ieithoedd eraill. Rwy'n credu'n gryf y bydd o fudd mawr i chi ym mhob rhan o'ch bywyd.

Fe wnaeth cyfweld ag Owain ac Ifan agor fy llygaid i feddwl am y rôl mae iaith yn ei chwarae wrth wneud cerddoriaeth. Mae iaith bron yn wyddor pan rydych chi'n creu cerddoriaeth mewn ieithoedd gwahanol.”


Aeth Rhiannon o Faesteg i Ruthun i gwrdd â Francesca Elena Sciarrillo, enillydd gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2019 yr Eisteddfod. Yn y rhaglen ddogfen fer hon, mae Francesca yn trafod yr effaith mae iaith yn ei chael ar ei hunaniaeth a’i hymdeimlad o berthyn.

“Mae rhannu straeon pobl a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw o ddiddordeb mawr i mi. Trwy’r prosiect yma, roeddwn i eisiau trafod iaith mewn ffordd bersonol, a dyna pam dewisais i rannu stori Francesca. Hoffwn weld dysgwyr Cymraeg yn cael eu cynrychioli’n fwy trwy’r cyfryngau ac mae dathlu amlieithrwydd yn ffordd wych o wneud hynny.

Trwy wneud y ffilm hon rydw i wedi cael fy atgoffa bod perthynas pobl ag ieithoedd yn unigryw; gwnaeth y broses hon i mi feddwl am fy mherthynas fy hun â’r Gymraeg a’r Saesneg, a sut maent yn cyfrannu at fy hunaniaeth. Hoffwn helpu pobl i sylweddoli bod gan ieithoedd werth personol ac emosiynol, na allwch chi roi pris arno.”