News Story
Bwriad y Jones Collective a Plastique Fantastique oedd treulio eleni yn fforestydd a choedwigoedd Cymru, gan rannu eu cydweithrediad artistig FRANK, sioe am fywyd go iawn Frank Thomas, gweithiwr ffatri gwrth-wenwyn nadroedd, artist y gair llafar a gwenynwr. Fel y mwyafrif o bobl roedd yn rhaid i’n cynlluniau newid, a disodlwyd sgyrsiau o dan y canopi gan alwadau fideo a chysylltiadau rhithwir.
Er i ni golli’r coed, roedd yr amser i feddwl yn golygu amser i archwilio. Parhaodd Yena Young (Plastique Fantastique) a Buddug James Jones (Jones Collective) i gydweithio, ac estyn allan at arbenigwyr i archwilio themâu a phynciau sy’n berthnasol i’w cydweithrediad. Diolch i arian gan Lysgenhadaeth yr Almaen a’r Goethe-Institut Llundain recordiwyd eu disgwrs creadigol ac mae’r sgyrsiau hyn bellach ar gael fel cyfres podlediad.
Pennod 1: gwestai Dr Ruth Allen
Mae’r seicotherapydd Dr Ruth Allen yn ymuno â ni i siarad am natur yn NATURE, a grym iachaol camu y tu allan.
Mae Ruth Allen yn (eco)seicotherapydd, hwylusydd ac awdur, sy’n byw yn ardal y Peak, y DU. Mae Ruth yn arbenigo mewn ymarfer awyr agored, cysylltedd â natur a gweithio gyda’r meddwl, y corff a symud y tu mewn a’r tu allan. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y perthnasoedd sydd gennym gyda’n gilydd, gyda ni’n hunain a gyda gweddill natur, yn ogystal â’r ystyr a wnawn o’n bywydau. Cyhoeddir ei llyfr cyntaf, Grounded, yng ngwanwyn 2021.
whitepeakwellbeing.com | Instagram: @whitepeak_ruth
Pennod 2: GATHERING – gwestai Owen Grifiiths
Gyda’r Artist Owen Griffiths rydym yn archwilio’r optimistiaeth gynhenid yn GATHERING a’r hyn sy’n dod â phobl ynghyd.
Mae Owen Griffiths yn arlunydd, yn arweinydd gweithdai ac yn hwylusydd. Gan defnyddio prosesau cyfranogol a chydweithredol, mae ei arfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol yn archwilio posibiliadau celf i greu fframweithiau, adnoddau a systemau newydd. Mae Griffiths yn archwilio hinsawdd, tirwedd, trefoli, cyfiawnder cymdeithasol, systemau bwyd ac addysgeg, gan greu prosiectau a digwyddiadau sy’n ein paratoi ar gyfer gwaith caredig y dyfodol.
Bu’n Gymrawd y Cyngor Prydeinig, Llysgennad Cymru Greadigol ac mae wedi datblygu prosiectau gydag Olympiad Diwylliannol Cymru, 1418Now, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithasau Tai, Gwasanaethau Carchardai EM, yn ogystal ag Orielau a sefydliadau diwylliannol ac awdurdodau lleol.
Yn 2020 datblygodd Griffiths Ways of Working, platfform a chwmni cyfranogiad cymunedol newydd er mwyn gweithio mewn ffyrdd y mae’n teimlo sy’n rhai brys; yn trafod argyfwng hinsawdd, lleoliaeth a phrosiectau cydweithredol radical.
Pennod 3: SPACE – gwesteion Steve McCloy a Bongani Muchemwa
Gan gael persbectif newydd, rydym yn siarad am ofod yn SPACE â’r penseiri Steve McCloy a Bongani Muchemwa, lle mae Bud yn darganfod cartref ei breuddwydion.
McCloy + Muchemwa yw stiwdio dylunio a phensaernïaeth Steve McCloy a Bongani Muchemwa. Gyda’n gwreiddiau yn Affrica a bellach yn byw yn Llundain, mae gwaith ein stiwdio yn dangos archwiliad dyfeisgar i feddwl am ddylunio.
Fel cydweithwyr brwd, rydym yn mwynhau’r cyfleoedd i ymuno â sefydliadau eraill i fynd i’r afael â phob math o brosiectau cyhoeddus … a rhagdybiaethau!
Mae ein gwaith wedi’i seilio ar barch dwfn at y broses artistig, i ni dylai pob prosiect fod mor bwrpasol ag y mae’n arloesol. Mae gennym ddiddordeb mewn gwyrdroi canfyddiadau, ac rydym am i’n prosiectau trefol a gwledig ail-ddychmygu rhesymeg ofodol, ymarferoldeb a phatrymau preswylio, tra hefyd yn ymgolli ac yn dwysau’r synhwyrau. Rydym wedi ymrwymo i wneud gwaith fforddiadwy, dealladwy ac atgofus – pensaernïaeth, ardaloedd tu mewn, gwrthrychau a thirweddau.
Instagram: @mccloymuchemwa | Twitter: @mccloymuchemwa
Cyd-gynhyrchir FRANK gan y Jones Collective & National Theatre Wales mewn cydweithrediad â Plastique Fantastique, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Tîm creadigol
- Podlediadau Swigod gan Jones Collective a Plastique Fantastique
- Dylunydd Sain Sam Jones
- Delwedd gan Yena Young / Plastique Fantastique
Arweinir THE JONES COLLECTIVE gan y cydweithredwyr tymor hir Buddug James Jones a Jesse Briton. Gan gydweithio â phobl a chymunedau yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae’r Jones Collective yn archwilio materion cymdeithasol cyfoes yng Nghymru a’r Byd.
Perfformiwyd eu cynhyrchiad dwyieithog ‘Hiraeth’, sydd wedi ennill sawl gwobr, am y tro cyntaf yng ngŵyl ymylol Caeredin yn 2014 ar ôl ennill Gwobr Ideastap Underbelly a chlod beirniadol: “Undoubtedly this year’s find.” ★★★★ Evening Standard, “There are laughs and tears, both on and off stage, in a charming piece.” ★★★★★ British Theatre Guide. Yn dilyn hynny, aeth ‘Hiraeth’ ar deithiau gwledig wedi’u gwerthu allan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Seland Newydd gan gyrraedd dros 3,500 o aelodau cynulleidfa.
Ochr yn ochr â datblygu ‘FRANK’ mae’r Jones Collective wedi gweithio gyda ffoaduriaid o Syria tra ar gyfnod preswyl yn y Neuadd Les, Ystradgynlais fel rhan o Blatfform Theatr Iolo a gyda chymunedau yn Ne Dyfnaint ar brosiect rhwng y cenedlaethau a gefnogwyd gan Villages in Action.
Mae PLASTIQUE FANTASTIQUE yn arbenigwyr mewn pensaernïaeth dros dro wedi’u lleoli yn Berlin. Gan arbenigo mewn gosodiadau niwmatig fel lleoedd amgen, addasadwy, ynni isel ar gyfer gweithgareddau dros dro a byrhoedlog, mae eu gwaith wedi cael ei fwynhau ledled y byd er 1999. Yn y gorffennol mae Plastique Fantastique wedi archwilio potensial perfformiadol lleoedd trefol yn bennaf, ac mae eu cydweithrediad â Jones Collective yn ehangiad sylweddol ar eu harfer mewn amgylcheddau gwledig a lled-wledig.