News Story
Mae NTW TEAM wedi bod yn stori lwyddiant sylweddol i National Theatre Wales ers ei ddechreuad yn 2010. Rydym felly'n llawn cyffro i gyhoeddi'r penderfyniad i esblygu TEAM yn sefydliad unigryw ei hun.
Yn greiddiol iddo, mae TEAM yn credu yng ngrym creadigrwydd i ysgogi newid cymdeithasol, gan gynnig yr offer a'r llwyfannau i bobl fynegi eu hunain, rhannu eu straeon a siapio eu cymunedau. Bydd ymgysylltu creadigol yn parhau i fod wrth wraidd gwaith TEAM, gan gofleidio ystod eang o ffurfiau celfyddydol ac ymgysylltu â grŵp amrywiol o bobl greadigol i adeiladu cysylltiadau dwfn, ystyrlon o fewn cymunedau ledled Cymru.
Gyda phersbectif Cymru gyfan a chydweithrediadau sy'n cynrychioli diwylliant Cymru yn fyd-eang, mae gwaith TEAM yn ddull arloesol sy'n cael ei yrru gan y gymuned at theatr, addysg, y celfyddydau a cherddoriaeth, sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu a chyd-greu ar lawr gwlad, cynhwysol.
Rydym yn llawn cyffro am ddyfodol o ailgysylltu a datblygu cyfleoedd newydd gyda chymunedau creadigol amrywiol Cymru.
Bydd hwn yn gyfnod trosiannol i TEAM, cadwch lygad allan yn 2025 wrth i ni symud tuag at ein hail-lansio.