News Story

Mae Daf James yn ddramodydd, sgriptiwr, cyfansoddwr a pherfformiwr o fri, yn gweithio ar draws theatr, radio, teledu a ffilm. Ef yw’r athrylith sydd y tu ôl i gyfieithiad ac addasiad y sgript hon (a oedd yn Ffrangeg yn wreiddiol – sacre bleu)!

Yma, mae Daf yn rhannu ei ysbrydoliaeth ddiwylliannol, o Foucault i Jake Gyllenhaal…

Drama

Angels in America gan Tony Kushner. Mae’n debyg mai hon yw’r ddrama gath y dylanwad mwyaf arna i fel artist. 'i sgript graff, ei gwleidyddiaeth a'i magic realism; ei deublygrwydd, a sut mae’n cyfuno’r epig gyda’r cyffredin – dysgodd hon gymaint i mi am holl bosibiliadau theatr.

Teledu

The Leftovers. Fel arfer, dwi’n mwynhau dramau teledu gyda digon o hiwmor, a chân neu ddwy o bosib! Dwi wastad yn synnu bod cymaint o ddramâu’n cynnwys cyn lleied o hiwmor – fel petaen ni ddim yn chwerthin yng nghanol sefyllfaoedd tywyllaf bywyd. Yn aml mi fydda i’n mynd o ugly crying i chwerthin yn uchel mewn angladd. Dwi’n ffan enfawr o Russell T. Davies a Sally Wainwright – maen nhw’n gwybod shwt i ysgrifennu’r tywyll a’r golau. Er, wedi dweud hynny, dwi'n dwlu ar The Leftovers sy'n ddifrifol dros ben. Pan y'ch chi'n dechrau gyda’r syniad bod 2% o’r boblogaeth yn diflannu ar ôl digwyddiad perlesmeiriol, gallwch fynd fwy neu lai i unrhyw gyfeiriad ar ôl 'ny. A dyna’n union mae’r gyfres yma’n ei wneud. Mae’n mynd i’r llefydd mwyaf swreal, eithafol, hardd, ac yn llwyddo i ddweud mwy am existential angst a’r cyflwr dynol nag unrhyw ddrama deledu arall y gwn i amdani. Mae’n sôn am ddirgelwch a gwyrthiau, heb geisio eu datrys.

Cynhyrchiad theatr

Fersiwn Ivo Van Hove o A View from the Bridge. …a welais i mo hwn mewn theatr, hyd yn oed, ond yn y sinema. Ond o weld y cynhyrchiad yma fe sylweddolais mor anhygoel oedd Miller fel dramodydd – mae ei grefft yn fesitrolgar – ac fe wnaeth y cynhyrchiad hwn rywbeth anhygoel gyda'i is-destun. Ar y diwedd, roedd fy nghoesau'n wan ac ro’n i’n methu codi. Do’n i erioed wedi cael profiad tebyg o’r blaen, nac ers hynny. Mae’n un o’r ychydig droeon dwi wedi profi catharsis llwyr mewn theatr.

Llyfr

On the Red Hill gan Mike Parker. Yn gofiant, yn hanes cymdeithasol hoywder, ac yn awdl i natur. O ran strwythur, mae'n cymryd pedair elfen, pedwar tymor, pedwar pwynt cwmpawd, a phedwar bywyd, ac yn saernïo’r naratif mewn ffordd sy’n hynod deimladwy, yn addysgiadol, ac yn falm i’r enaid. Dwi wrthi ar hyn o bryd yn addasu’r llyfr yn ffilm. Anaml iawn mae llyfrau’n fy nghyffwrdd fel y gwnaeth hwn; ond mae ’na hefyd gymaint o bosibiliadau creadigol yma wrth fynd ati i addasu gan fod y testun mor amlhaenog a chyfoethog.

Ffilmiau

Donnie Darko, It’s a Wonderful Life, Pride, Y Dyn ’Nath Ddwyn y Dolig. Ffilmiau yn delio â theithio trwy amser, cymuned, achubiaeth, queerness, Dolig. Gwnewch beth fynnoch chi o hynny. Ond dwi'n sucker pan mae'n dod at redemption. A Dolig. A Jake Gyllenhaal mewn hwdi.

Perfformiwr

Taylor Mac. Fe welais i Taylor Mac yn perfformio yng Ngŵyl Caeredin, 2006. Fe ganodd Judy (rhagenw Taylor Mac yw judy; a rhyw judy yw ‘perfformiwr’: un sydd a’u rhyw yn newid yn gyson) gân o’r enw The Palace of the End. Mae’n dychmygu Lynne Cheney (gwraig Dick Cheney, cyn is-Lywydd yr Unol Daleithiau) a Saddam Hussein – y ddau wedi ysgrifennu nofelau rhamant – yn cyfarfod. Fel mae Taylor Mac yn ei ddweud: ‘you can't make this shit up.’ Er he does make some shit up. Ond symo fe'n shit. Pan mae llygaid Lynne Cheney a Saddam Hussein yn cwrdd wrth iddo gael ei ddienyddio, mae’n un o’r eiliadau mwyaf cymhleth, empathig a humane i mi ddod ar eu traws erioed mewn theatr.

Cerddoriaeth

Rufus Wainwright a Caryl Parry Jones. Dau sy’n creu alawon gogoneddus, yn ddewiniaid geiriau ac yn berfformwyr anhygoel. Un yn hoyw. Un yn Gymraeg. Dwi’n hoffi dychmygu fy mod i'n blentyn creadigol iddynt, yn dawnsio yn eu cysgodion.

Cerddi

Mewn Dau Gae gan Waldo Williams a Dychwelyd gan T.H. Parry-Williams. Mae’r cerddi yma’n waith dau feistr ar eu crefft, ac fel The Leftovers mae’r ddau’n trafod dirgelion mwyaf bywyd. Un o’r pethau gwaethaf/gorau am siarad Cymraeg yw ei fod yn aml yn anodd i gyfathrebu dyfnder a chrefft cerddi tebyg wrth gyfieithu. Ond fyddwn ni byth yn deall holl ddirgelion bywyd chwaith, felly efallai fod y rhwystredigaeth yna'n hollol addas. Mi faswn i wrth fy modd yn cael pryd o fwyd gyda Waldo Williams, T.H. Parry-Williams, Melquiot, a Mathilde (cyfarwyddwr Petula). Dwi’n credu y byddai’r sgwrs itha awesome.

Damcaniaethwr Diwylliannol

Michel Foucault a Judith Butler. Mae fy love affair gyda Ffrainc yn ymestyn y tu hwnt i wyliau Eurocamping gyda ’nheulu ac astudio TGAU Ffrangeg. I rai pobl, efallai bod y categori yma – damcaniaethwr diwylliannol – yn gwneud i mi swnio fel wa**er. Ond ar hap fe ddois i ar draws llyfr o’r enw Foucault and Queer Theory gan Tamsin Spargo pan o'n i'n fyfyriwr, wnaeth fy arwain at The History of Sexuality gan Foucault, y damcaniaethwr Ffrengig, ac oddi yno at waith Judith Butler. Fe newidiodd hynny fy mywyd. Yn llwyr. Dyma oedd dechrau fy nhaith tuag at ddeall sut mae iaith yn ffurfio’n hunaniaethau, a sut mae rhywioldeb a rhywedd yn bethau ar wahân i luniadau concrid, hanfodol.

Felly, mae cyfieithiadau o destunau Ffrangeg yn agos iawn at fy nghalon!