Feral Monster
15 Chwefror – 22 Mawrth 2024About Feral Monster
4 StarsOriginal and smart... The hope, angst and anger will appeal to anyone who is, or has ever been, adolescent.
Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy'n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae'r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy'n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
"Rydyn ni’n ceisio dweud stori sy’n cwiar, sy’n Gymreig, sy’n wledig." - Bethan Marlow
4 StarsA roaring success.
4 Stars[A] resounding achievement.
Theatre at its most challenging and best.
Entertaining but also thought-provoking… with an impressive cast.
From the onset, you just know you’re watching something significant, important and groundbreaking.
A rhythmically charged, visually stunning, and intensely hilarious experience.
Noddir Feral Monster gan y Cymdeithas Adeiladu Principality a’i cefnogi gan The Open Fund PRS Foundation, John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen Dramayddion NTW, Jack Arts a gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.
Image gallery
Ein gwaith gyda phobl ifanc
Gwybodaeth ychwanegol
Taith
15 - 24 Chwefror, Theatr y Sherman, Caerdydd
29 Chwefror - 1 Mawrth, Canolfany Celfyddydau Aberystwyth
6 - 7 Mawrth, Pontio, Bangor
13 Mawrth, Ffwrnes, Llanelli
21 - 22 Mawrth, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Hygyrchedd
BSL
Mae pob perfformiad BSL yn cael ei ddehongli gan Nikki Champagnie Harris.
Perfformiadau sain a theithiau cyffwrdd
Darperir teithiau cyffwrdd a pherfformiadau sain gan Owen Pugh.
Gwrandewch ar ein taflen sain ar ein cyflwyniad sain i glywed y cymeriadau, y llwyfan a’r propiau’n cael eu disgrifio gyda delweddau i gyd-fynd â nhw.
Mae Teithiau Cyffwrdd yn cynnig cyfle i ymwelwyr dall neu â golwg rhannol ddod yn gyfarwydd â’r set, y propiau a’r gwisgoedd cyn y perfformiad.
Perfformiad ymlaciedig
- Gall cynulleidfaoedd symud o gwmpas, siarad a lleisio yn ôl yr angen
- Mae'r drysau allanol i'r cyntedd ar agor trwy gydol y sioe
- Mae goleuadau tŷ'r awditoriwm ymlaen yn ystod y sioe ar lefel isel
- Mae amddiffynwyr clustiau ar gael i'w benthyca am ddim gan dîm y Swyddfa Docynnau a Thywyswyr yn yr awditoriwm
- Mae 'ardal ymlacio' (Ystafell Fyw Gyhoeddus Camerados) yn y cyntedd ar gael i'w defnyddio pan fo angen
–
Theatr y Sherman, Caerdydd
Bydd yna:
- Disgrifiad sain a taith cyffwrdd ar 20 a 21 Chwefror
- Dehongliad BSL ar 20 a 24 Chwefror
- Perfformiad ymlaciedig ar 22 Chwefror.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Bydd sain ddisgrifiad a thaith cyffwrdd ar y 29 Chwefror.
Pontio, Bangor
Bydd yna:
- sain-ddisgrifiad a taith cyffwrdd gan Owen Pugh ar 6 Mawrth
- bydd dehongliad BSL ar 7 Mawrth.
Ffwrnes, Llanelli
Dehongliad BSL ar 13 Mawrth.
Gwybodaeth am y cynnwys
Argymhelliad oedran 14+. Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref yn ogystal â:
Cyfeiriadau at: archwilio hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb, pornograffi, rhyw, marwolaeth, hunan niwed, trawma plentyndod, salwch meddwl, tlodi a cyffuriau.
Portreadau o: alcoholiaeth, trais, troseddau cyllyll, gweithgarwch rhywiol.
Cynrychiolaeth theatrig o: hunanladdiad.
Gyda diolch i Ayesha Rees Khan, cwnselydd a ddarllenodd drwy'r sgript a rhoi cyngor ar y wybodaeth yn y cynnwys.
Gofal y gynulleidfa
Bydd toiledau niwtral o ran rhywedd ym mhob lleoliad.
Mae'r sioe hon yn cynnwys themâu a allai effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Felly rydyn ni'n cynnal Ystafelloedd Byw Cyhoeddus Camerados ym mhob lleoliad y daith, sydd wedi’u cynllunio ar y cyd â Cara Evans, Dylunydd Set a Gwisgoedd Feral Monster. Mae'r ystafelloedd byw hyn yn fannau croesawgar sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cysylltiad dynol - neu o leiaf paned a sgwrs! Rydyn ni yma i unrhyw un sydd eisiau sgwrsio, naill ai am y sioe neu dim ond yn gyffredinol, i ymuno â ni cyn ac ar ôl y perfformiad - byddwn ni ar y soffa gyfforddus.
Mae Camerados yn fudiad cymdeithasol sy'n cynnwys pobl sy'n meddwl ei fod yn syniad da i fod yn ychydig yn fwy dynol. Mae eu Hystafelloedd Byw Cyhoeddus yn lleoedd croesawgar, heb agenda i bobl eistedd i lawr gyda phaned, cael sgwrs, a theimlo'n fwy dynol.
Cymorth iechyd meddwl
Mae yna lawer o wasanaethau iechyd meddwl gwych ar gael, gan gynnwys Papyrus, yr ydym wedi ymgynghori â nhw ar y prosiect. PAPYRUS Prevention of Young Suicide yw’r elusen yn y DU sydd wedi'i ymroi i atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl a llesiant emosiynol cadarnhaol pobl ifanc. Maen nhw'n credu na ddylai unrhyw berson ifanc orfod ymdopi ar ei ben ei hun gyda syniadau am hunanladdiad.
Y tîm creadigol
- Cyfarwyddwr
- Izzy Rabey
- Awdur
- Bethan Marlow
- Dramäydd
- Jennifer Lunn
- Cyfansoddwraig
- Nicola T. Chang
- Cyfarwyddwr Symudiadau
- Osian Meilir
- Cyfarwyddwr Perfformio Cerdd
- Alex Comana
- Dylunydd y Set a’r Gwisgoedd
- Cara Evans
- Dylunydd Goleuo
- Marty Langthorne
- Cyfarwyddwr Castio
- Hannah Marie Williams
- Cydlynydd Ymladd ac Agosatrwydd
- Claire Llewellyn am Rc-Annie
Tîm cynhyrchu
- Rheolwr Llwyfan y Cwmni
- Becca Moore
- Dirprwy Reolwr Llwyfan
- Emily Behague
- Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
- Mikey Pritchard
- Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol
- Olwen Archer
- Cyd-Ddylunydd Sain & Peiriannydd Sain y Cynhyrchiad
- Josh Bowles
- Technegydd Goleuadau ac Ailoleuo
- James O’Neill
- Rhaglennydd LX
- Cara Hood
- Goruchwyliwr Gwisgoedd
- Amy Barrett
- Gwneuthurwr Gwisgoedd / Gwisgoedd
- Nikita Verboon
- Cynorthwyydd Dylunio
- Elliot Ditton
- Cydlynydd Llesiant
- Ndidi John
- Dehonglydd BSL
- Nikki Harris
- Sain Ddisgrifiwr
- Owen Pugh