Petula
Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi’i archifoAbout Petula
4 StarsA story-world in which nothing is remotely conventional
Sut yn y byd wyt ti fod i dyfu fyny a phopeth o dy gwmpas di’n cwympo’n ddarnau?
Dyna’r cwestiwn mawr i Pwdin Evans, sydd wedi cael llond bol o’i rieni a’i lys rhieni gwallgo a phopeth arall sydd gan berson ifanc i boeni amdano yn y byd. Mae’n heglu hi ar antur epig i’r gofod i chwilio am atebion a’i gyfnither coll Petula.
Ym mis Mawrth 2022, daethon ni a Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 at ein gilydd i gyflwyno Petula, cynhyrchiad newydd sbon o ddrama anhygoel Fabrice Melquiot. Cafodd ei chyfarwyddo gan Mathilde Lopez gyda sgript gan Daf James a oedd yn cyfuno’r Gymraeg, Saesneg a rhywfaint o Ffrangeg.
Cyfuniad cofiadwy a swreal o gomedi tywyll ac antur. Gwledd weledol am berthynas, iaith a chariad.
Enwebwyd ar gyfer gwobr Y Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc yng Ngwobrau Theatr y DU 2022.
Lawrlwytho
Image gallery
Lluniau
A story that could be Roald Dahl or early Spielberg…this production is nothing if not unique
Filled with stage with images that expand the edges of the universe
This tender, affecting and utterly bonkers play is perhaps the ideal antidote to these challenging times
A dizzying mix of English, Welsh and French, which the cast negotiates with endless grace to great comical effect
The action may be absurd but the trauma and confusion of growing up are totally realistic
Mathilde a Daf yn yr ystafell ymarfer
Efallai y byddwch chi hefyd â diddordeb yn...
Gwybodaeth ddefnyddiol
Taith
Theatr y Sherman, Caerdydd
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Pontio, Bangor
Ffwrnes, Llanelli
Torch Theatre, Aberdaugleddau
Glan yr Afon, Casnewydd
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Hygyrchedd
Sain ddisgrifiad
Gwrandewch ar y cyflwyniad wedi’i sain ddisgrifio
Gwrandewch ar y nodyn cyflwyno wedi’i sain ddisgrifio
Cafodd y perfformiadau gyda sain ddisgrifiad yn Theatr Sherman eu sain ddisgrifio yn Gymraeg a Saesneg (ar nosweithiau gwahanol) gan Ioan Gwyn. Cafwyd cyfieithiad sain byw o’r sgript o’r Gymraeg i’r Saesneg hefyd gan Carys Eleri.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Cafodd perfformiadau BSL eu dehongli gan Catheryn McShane yn Theatr Sherman a Pontio, Bangor
Capsiynau
Cafodd pob perfformiad o Petula eu capsiynu’n llawn gyda dwy sgrîn capsiynau yn yr awditoriwm:
- Un ar y dde yn Saesneg gyda’r ddeialog Gymraeg wedi’i chyfieithu
- Un ar y chwith yn Saesneg a Chymraeg heb ei gyfieithu
- Roedd ychydig o’r ddeialog yn Ffrangeg. Roedd capsiynau ar gyfer hynny ar y ddwy sgrin heb gyfieithiad.
Cast
- Petula
- Kizzy Crawford
- Joe Potatoslouch
- Tom Mumford
- Dadi
- Sion Pritchard
- Mami
- Clêr Stephens
- Amethyst Crappp
- Rachel Summers
- Pwdin Evans
- Dewi Wykes
Y tîm creadigol
- Awdur
- Fabrice Melquiot
- Cysyniad a cyfarwyddo
- Mathilde López
- Cyfieithiad a addasiad
- Daf James
- Cyfarwyddwr cynorthwyol
- Siobhan Brennan
- Dylunydd
- Jean Chan
- Cyfansoddwr
- Branwen Munn
- Coreograffydd
- Leighton Wall
- Dylunydd Golau
- Joe Price
- Dylunydd Fideo
- Will Monks
- Ymgynghorydd Sgript
- Arwel Gruffydd