Treantur (Kidstown)
Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi’i archifoAbout Treantur (Kidstown)
Mae’n amser chwarae.
Gwahoddwyd plant 6-11 oed i Dreantur gan yr artistiaid Nigel a Louise gyda’r dylunydd Amy Pitt.
Gêm fawr oedd Treantur, a’r plant eu hunain oedd yn ei dyfeisio hi.
Ar ôl cael pasbort, cafodd y plant mynediad i ardal chwarae fawr yn yr awyr agored. Roedd pethau yno i chwarae â nhw, i’w hadeiladu ac i’w gwisgo. Roedd cynorthwywyr wrth law i helpu'r plant i wireddu'u dychymyg.
Gwahoddwyd oedolion i gael hoe, i ymlacio ac i wrando ar y newyddion am yr hyn oedd yn digwydd y tu mewn.
"I like Kidstown because we can be free." - Preswylwyr Treantur (Kidstown)
Yn ystod haf 2023, casglwyd cyfweliadau a straeon gan gyfranogwyr ifanc Treantur er mwyn creu sioe epig yn 2024.
Cerdyn post gan Treantur
Image gallery
Taith Treantur
Cwrdd â'r creaduriaid
Prosiect oedd Treantur a greuodd ni gyda Nigel Barrett a Louise Mari gyda’r dylunydd Amy Pitt.
I’r rheini sydd heb glywed am Nigel a Louise, maen nhw’n creu “perfformiadau gwyllt, beiddgar, gweledol i bobl nad ydyn nhw’n rhy hoff o’r theatr, a phrofiadau theatrig anarferol i’r bobl sydd”.
Ymhlith eu gwaith diweddar mae Dog Ballet (cŵn yn gynwysedig) a Party Skills for the End of the World.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Taith
Agorwyd Treantur:
26-29 Gorffennaf, Y Drenewydd
5-12 Awst, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yn yr Eisteddfod, cyflwynir Treantur yn Gymraeg
18-21 Awst, Glyn Ebwy
Cafodd sylfeini Treantur eu gosod yn y Drenewydd ym mis Awst 2022. Dros bythefnos, bu artistiaid lleol a’r gymuned yn ein helpu i greu prototeip o’r syniad.
Mynediad
Fe wnaethom gynnig Saesneg gyda chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol, a theithiau cyffwrdd.
Diolch
Mae popeth a wnawn yn NTW mewn cydweithrediad. Roedd Treantur yn ymdrech tîm a ddaeth ag artistiaid, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ynghyd, i gyd yn gweithio'n angerddol i ddod â'r rhyfeddod llawn dychymyg hwn yn fyw.
Rydym hefyd eisiau dweud diolch yn fawr iawn i’n partneriaid a’n noddwyr:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Hafren, Y Drenewydd
- Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd
- Clwb Pêl-droed Beaufort, Glyn Ebwy
- Edenstone Homes a Chyfreithwyr Aaron & Partners
- IKEA.