Cynaliadwyedd amgylcheddol
Cynaliadwyedd amgylcheddol
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith carbon
Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd. Mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau, ac fel theatr genedlaethol, mae'n rhaid i ni gymryd yr awenau.
Ein cynyrchiadau
Ochr yn ochr â llawer o gwmnïau theatr eraill ledled Cymru a thu hwnt, rydym yn defnyddio Theatre Green Book fel canllaw i wneud ein cynyrchiadau yn fwy cynaliadwy. O gyfrifo ôl troed carbon deunyddiau, i ailddefnyddio ac ailgylchu.
Wrth wneud hynny, rydym yn cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflawni sero carbon ar gyfer y sector cyhoeddus erbyn 2030.
Mae'n ymgymeriad enfawr. Nid ydym yn berffaith. Ond rydyn ni'n trio.
Gweithredu
Rydym yn gwneud cynnydd mewn meysydd eraill hefyd, gan gynnwys:
- Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
- Gweithio hybrid i leihau ein cymudo dyddiol
- Defnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant a rennir pan fydd yn rhaid i ni deithio o amgylch y wlad
- Ysgafnhau llwyth ein gwefan drwy wneud pethau’n haws dod o hyd iddynt a chael gwared ar gynnwys swmpus sy’n defnyddio llawer o ynni
- Defnyddio mwy o wasanaethau cwmwl fel ein bod yn llai dibynnol ar galedwedd ein gweinydd
- Datgan ein cefnogaeth i Culture Declares Emergency
Rydyn ni'n addo rhannu mwy o'n taith tuag at ddod yn garbon niwtral, a phopeth rydyn ni'n ei ddysgu ar hyd y ffordd.
Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi ein helpu i fod yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Related items
Creu Theatr Mewn Cyfnod o Argyfwng Hinsawdd
Gwen 29 Medi, National Theatre, LlundainSgwrs sector gyfan y DU am greu theatr yng nghyd-destun argyfwng hinsawdd, gan gynnwys egwyddorion y Theatre Green Book.Theatr Gymreig a'r Argyfwng Hinsawdd
Gorffennaf 2023 - Mawrth 2024Sut mae diwydiant theatr Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.