Cefnogaeth gorfforaethol
Cefnogaeth gorfforaethol
Creu theatr. Sbarduno newid.
Rydyn ni’n gwmni theatr crwydrol i Gymru gyfan. Mae lle cwbl ganolog yn ein gwaith i gydweithio a chyfranogi – oherwydd rydyn ni’n gwybod bod creadigrwydd yn hwb i les, sgiliau a hyder pobl. Ac mae’n arwain at fanteision sydd i’w teimlo y tu hwnt i’r celfyddydau. Wrth gydweithio â ni, byddi di’n cyfrannu at greu cymunedau egnïol, creadigol a hyderus ym mhob cwr o Gymru.
Rydyn ni eisiau ymwneud â phawb a fyddai’n hoffi cymryd rhan. Wrth ein helpu i gyrraedd mwy o bobl, fe fydd dy gwmni neu dy sefydliad yn cael mwy o effaith fyth wrth gyflawni’i amcanion. Gyda’n gilydd, fe allwn ni greu profiadau gwefreiddiol i gydweithwyr a chymunedau, a bydd pobl yn siŵr o sôn am y rhain am flynyddoedd i ddod. Bydd pobl a chymunedau’n ffynnu.
O nawdd unigryw ar gyfer prosiectau penodol, i gymorth nad yw’n ariannol, i fod yn bartner corfforaethol, fe allwn ni ganfod ffyrdd effeithiol o gydweithio.
Drwy gydweithio y daw’r holl bethau gorau bob tro.
Sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd
Hyfforddiant a meithrin tîm
Gan ddefnyddio ein rhwydwaith o wneuthurwyr theatr gwych, fe allwn ni greu hyfforddiant a digwyddiadau meithrin tîm sy’n cyd-fynd yn berffaith ag anghenion dy gwmni neu dy sefydliad di.
Dychmyga actor neu gyfarwyddwr yn helpu gyda hyfforddiant sgiliau cyfathrebu, neu’n helpu pobl i chwarae rhan wrth roi gwasanaeth i gwsmeriaid – a gwneud hynny’n hwyl.
Neu fe allwn ni helpu i greu digwyddiad cwbl unigryw a fydd yn hoelio sylw pobl ac yn eu hannog i siarad.
Ymwneud â’r gymuned
Rydyn ni’n arbenigwyr ar weithio’n drylwyr gyda chymunedau a chynulleidfaoedd, a gall hynny helpu dy frand i greu perthnasau ystyrlon â phobl Cymru. Ar yr un pryd, bydd yn gwneud gwir wahaniaeth i’r llefydd a’r bobl sy’n bwysig i dy sefydliad neu dy gwmni di.
Ehangu cyrhaeddiad
Fe allwn ni gysylltu dy sefydliad neu dy gwmni â’r gweithwyr creadigol gorau yn y meysydd goleuo, sain, llwyfannu, gwisgoedd a dylunio, a hynny er mwyn cydweithio ar frandio, digwyddiadau neu ofodau busnes.
Helpu gyda chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion a phobl ifanc allweddol, i ymwneud â chymunedau a chyfranogwyr, i greu theatr sy’n gynaliadwy, ac i greu theatr gwych sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hynny’n cyd-fynd yn wych â materion ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.