Artistiaid preswyl: The City Socials

Dewch i gwrdd â’r artistiaid sy’n archwilio gwaith brys, cyffrous a chydweithredol

Rydyn ni wedi comisiynu pedwar artist i ymgymryd â chyfnodau preswyl mewn lleoliadau ar draws Caerdydd i archwilio a chreu gwaith newydd a rhannu perfformiad o’r newydd yn The City Socials.

Cwrdd â’r artistiaid preswyl


Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.