Dramayddion sy'n dod i'r amlwg

Cefnogi artistiaid yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau dramayddiaeth

Cawsom ein syfrdanu gan y nifer o artistiaid a gysylltodd drwy ein galwad dramayddiaeth - rhwng y pedair rôl a hysbysebwyd, cawsom dros 130 o geisiadau! Gwnaeth ehangder y diddordeb a thalent i ni feddwl am sut y gallem gefnogi dramayddion newydd yng Nghymru, gan helpu i greu amgylchedd cefnogol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent.

Gyda chefnogaeth ein Dramaydd Cyswllt Kaite O'Reilly, fe wnaethom greu rhaglen ddatblygu ar gyfer carfan o wyth artist. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi teithio i weld sawl sioe theatr gyda'n gilydd, wedi cynnal sesiynau holi ac ateb gyda'r cwmnïau y tu ôl i'r sioeau hyn i ddod i adnabod eu harfer a chynnal dosbarthiadau meistr gyda dramayddion proffesiynol.

Cwrdd â'r dramayddion sy'n dod i'r amlwg

Gyda diolch i Sefydliad John Ellerman am eu cefnogaeth i brosiect Dramayddion Cyswllt NTW, sy’n paru dramayddion gyda’n prosiectau sy’n digwydd yn 2023-2024.