Galwad am actorion yng Nghaerdydd i berfformio mewn dramâu radio

Prosiect TEAM Collective gan Ryan Romain

Galwad am actorion

Rydym yn chwilio am 6 actor i berfformio mewn 4 drama radio a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan artistiaid newydd.

Mae pob un o'r dramâu wedi'u hysbrydoli gan y thema 'ymddangosiad'.

- Mae The Princesses of Ponty gan James Davis
- Mae Trans Attraction gan Alia Ramna

Bydd Edward Lee yn cyfarwyddo'r ddwy ddrama hyn.

-
Mae Swansong gan Ffion King
- Mae Dod yn ôl at fy nghoed gan Yasmin Begum

Bydd Lorien Tea yn cyfarwyddo'r ddwy ddrama hyn.

Nodyn am National Theatre Wales

Rydym yn chwilio am chwe actor a fydd yn yr ensemble yn chwarae cymeriadau gwahanol ym mhob un o’r dramâu.

Menyw wen 30-40 oed
Menyw wen 20au
Dyn gwyn 20-30
Dyn du yn 40au
Dyn du hwyr yn eu harddegau cynnar ugeiniau
Menyw Asiaidd rhwng yr arddegau hwyr a'r ugeiniau cynnar


Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.

Ydych chi'n diddordeb?

Cefndir

Dros y flwyddyn nesaf, mae’r TEAM Collective yn cynnal digwyddiadau, gweithgareddau a thrafodaethau i ddarparu cyfleoedd i ystod eang o bobl gymryd rhan yn ein gwaith ac ymgysylltu â’r celfyddydau.

Mae Ryan Romain yn angerddol am ysgrifennu newydd, datblygu pobl greadigol ac artistiaid newydd. Ei nod gyda’r prosiect hwn yw rhannu straeon o gymunedau ledled Caerdydd, cysylltu unigolion dawnus ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffordd newydd.

Sut y byddwn yn eich cefnogi

Bydd actorion llwyddiannus yn cael:

  • Ffi o £150 am ddiwrnod o waith
  • Recordiad o'r cynhyrchiad gorffenedig

  • Cymorth dramayddol gan Ryan Romain, sydd â phrofiad helaeth gydag ysgrifennu newydd.

Am bwy rydyn ni'n chwilio

Gan fod y rhaglen hon yn cael ei hariannu gan Ariannu Ffyniant a Rennir trwy Gyngor Caerdydd, rydyn ni'n chwilio am artistiaid newydd sy'n byw mewn ward sir Cyngor Caerdydd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan artistiaid neu grwpiau sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli yn y celfyddydau gan gynnwys hunaniaethau ymylol, dosbarth gweithiol, mwyafrif byd-eang, anabl a/neu niwroddargyfeiriol.

Amserlen y gweithgarwch

Pryd

Beth

w/d dydd Llun 2 Medi

Galwad am actorion yn agor

Dydd Llun 23 Medi

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau actorion

Dydd Llun 30 Medi

Actorion yn cael gwybod am y canlyniad

Yn dilyn yr alwad, byddwn yn cysylltu â'r actorion a'r cyfarwyddwyr llwyddiannus i ddod o hyd i ddyddiad i gyfarfod. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn gynnar ym mis Hydref.

Bydd golygu, ôl-gynhyrchu a rhyddhau yn dibynnu ar y dyddiad a gadarnhawyd ar gyfer cyfarwyddo. Mae hyn yn debygol o ddigwydd ddiwedd mis Hydref.



Sut i wneud cais

Rydyn ni'n eich annog i wneud cais ym mha fodd bynnag yr ydych yn teimlo'n fwyaf cyfforddus a hyderus. Gall hyn fod mewn fideo, neges sain neu e-bost. Pa bynnag fformat yr ydych yn ei ddewis, dywedwch wrthym mewn dim mwy na 3 munud neu hyd at 600 o eiriau:

  • Pwy ydych chi a beth ydych chi'n ei wneud
  • Pam fod gennych ddiddordeb mewn actio yn y dramâu a grybwyllir uchod
  • Rhowch hunandâp wedi'i recordio neu ddarn sain o'ch dewis chi

Cofiwch gynnwys:

  • Enw(au) yr ymgeisydd
  • E-bost
  • Rhif ffôn
  • Cod post (yng Nghaerdydd)

Os hoffech chi siarad â rhywun am y briff hwn, cysylltwch â Ryan drwy e-bostio ryanromain@hotmail.com.

Anfonwch ddatganiad o ddiddordeb erbyn 10am ddydd Llun 23 Medi i racheljohn@nationaltheatrewales.org a llenwch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal.

Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.