TEAM Sir Benfro
TEAM Sir Benfro
Mae TEAM wedi bod yn gweithio ym mherfeddion Sir Benfro ers 2018, fel rhan o’i brosiect mwyaf hyd yma.
Rydyn ni wedi bod yn creu cyfleoedd i rymuso pobl, yn eu helpu i arwain, yn sbarduno ymgyrchu creadigol, ac yn creu cysylltiadau. Mae hyn wedi arwain at gynhyrchiad maint llawn, a hwnnw wedi’i gyd-greu â’r bobl leol ar gyfer y bobl leol. Newid hinsawdd a’r amgylchedd oedd y thema y dewison nhw roi sylw iddi.
Mae cyd-greu yn ganolog i waith TEAM. Mae’n ein galluogi i ddod â phobl ynghyd i fyfyrio, i drin a thrafod pethau, ac i ofyn cwestiynau. Mae’n ein helpu i ddatgelu straeon a chyrraedd mannau annisgwyl.
Mae’n deg dweud bod ein gwaith yn Sir Benfro wedi ein harwain i lawr sawl llwybr na wnaeth neb ei ragweld – diolch yn rhannol i orfod dygymod â phandemig byd-eang – ond mae pobl Sir Benfro yn griw penderfynol a dygn dros ben. Roedd y cynhyrchiad terfynol a gafodd ei gyd-greu, Go Tell the Bees, yn dyst i hynny.
Tra roedden ni yn gweithio ar Go Tell the Bees, gofynnon ni i rai o’r bobl oedd yn rhan o’r prosiect beth ddysgon nhw am greadigrwydd a chysylltiadau. Gwyliwch beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.