Young Collective

Meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid a gweithwyr llawrydd

Mae ein Young Collective yn grŵp o 10 artist ar ddechrau eu gyrfa rhwng 18 a 28 oed sy’n gweithio ar draws actio, dawns, cerddoriaeth, ysgrifennu a chyfarwyddo.

Dros y flwyddyn nesaf, rydym yn helpu i ddatblygu eu harfer ymhellach trwy fentora, prosiectau a hunan-arweinir a phrosiectau grŵp, lleoliadau a chyfleoedd cysgodi.

Cwrdd â'r gydweithfa

Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd, Sefydliad Esmée Fairbairn a Sefydliad Noel Coward.


Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.