Pobl ifanc
Pobl ifanc
Mae National Theatre Wales yn cynnig pob math o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru gymryd rhan mewn theatr a’r celfyddydau. Rydyn ni eisiau cyfarfod a meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid, gwneuthurwyr theatr a chynulleidfaoedd.
O weithdai i gyfnodau preswyl i gyfleoedd perfformio, o gyfleoedd i gwrdd â phobl greadigol eraill i brosiectau mewn ysgolion a phrifysgolion; rydyn ni eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu, magu hyder, gwneud cysylltiadau, bod yn greadigol ac efallai hyd yn oed ddechrau gyrfa yn y theatr neu'r celfyddydau.
Mae Cymru'n arwain y ffordd gyda'i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol blaengar, sy'n rhoi pobl ifanc wrth galon ein bywyd democrataidd, mae creadigrwydd yn rhedeg trwy'r Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru arloesol, ac mae lleisiau pobl ifanc yn fwy pwerus nag erioed o’r blaen, diolch i fenter y Senedd (Senedd Cymru) i ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru i ddod yn unigolion hyderus, creadigol.
Ein prosiectau diweddaraf
- Mae ein Young Collective yn grŵp o 8 artist ar ddechrau eu gyrfa rhwng 18 a 28 oed sy’n gweithio ar draws actio, dawns, cerddoriaeth, ysgrifennu a chyfarwyddo.
- Mae Feral Fest yn becyn cyfleoedd datblygu pwynt mynediad i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa ddysgu am gyfansoddi caneuon a chreu cerddoriaeth ar gyfer y theatr.
- Wedi'i ysbrydoli gan themâu Circle of Fifths ac wedi'u harddangos ar hyd y daith, cymerodd pobl ifanc 16-25 ran yn ein prosiect Storïwyr Ifanc i ddatblygu eu sgiliau adrodd stori i greu portread sain o rywun yn eu cymuned.
- Fel rhan o ŵyl Gŵyl Cymru ym mis Tachwedd 2022, cyflwynodd Ali Goolyad, bardd Somali-Cymreig, gyfres o weithdai dwyieithog yn Ysgol Hafan y Môr yn Ninbych-y-pysgod, gan grefftio ategolion ar thema pêl-droed a chreu cerddi a llafarganeuon yn canolbwyntio ar bêl-droed, undod, a hunaniaeth Gymreig.
- Wedi’i gyhoeddi ym mis Mai 2022, cyfrannodd NTW TEAM yn Wrecsam at Far Apart But Close at Heart. Edrychodd yr adroddiad, a arweiniwyd gan Brifysgol y Frenhines Mary, ar sut y defnyddiodd sefydliadau celfyddydol ledled y DU lwyfannau digidol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn ystod y pandemig.
- Yn 2022, buon ni'n cydweithio â 17 o bobl ifanc yng Nghanolfan Ddysgu Sir Benfro ar brosiect naw wythnos yn asio bocsio a gwneud ffilmiau. Daeth hyn i ben gyda rhaglen ddogfen o'r enw The Dons.
- Ym mis Chwefror 2022, arweiniodd y cyn Aelod o Banel TEAM a Bardd Plant Cymru ar y pryd, Connor Allen, weithdai gyda phlant ysgol o bob rhan o Sir Benfro. Wedi ei anelu at Flynyddoedd 6 a 7, creodd 27 o ddisgyblion o 6 ysgol gerddi yn seiliedig ar Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
- O 2018-21, cyfrannodd pobl ifanc ledled Sir Benfro yn greadigol at brosiect National Theatre Wales ar raddfa fawr o’r enw Go Tell the Bees.
- Creodd cannoedd o ddisgyblion o bob rhan o Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, Ysgol Hafan y Môr, Ysgol Priordy Cil-maen, Canolfan Ddysgu Sir Benfro, Ysgol Gelli Aur ac Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Oswald gerfluniau, cerameg, gweithiau celf a bynting a ffurfiodd arddangosfa Go Tell the Bees.
- Ymgysylltodd 11,000 yn ddigidol drwy'r Ystorfa Ddysgu a'r ap gwe a ddatblygwyd gyda'r storïwr Phil Okwedy a disgyblion Ysgol Maenorbŷr.
- Cymerodd 515 o deuluoedd ran mewn sesiynau creadigol ar-lein a gorymdaith ddigidol a oedd yn cynnwys yr actorion Carys Eleri ac Ioan Hefin, y storïwr Phil Okwedy, animeiddiadau gan yr artist Gemma Green-Hope o Sir Benfro, cyfansoddiadau gwreiddiol gan John Lawrence, Branwen Munn a Carys Eleri, cerddoriaeth Bella Voce a choreograffi gan Unison Dance.
- Cymerodd pobl ledled Cymru ran yn y fenter 7 Gweithred Syml, a gynlluniwyd i ail-lunio ein cysylltiad â byd natur a chyda'n gilydd.