GALWAD: Wythnos yn y dyfodol

Roedd Wythnos yn y Dyfodol gan GALWAD yn gyfres o wersi a gweithgareddau byw, wedi’u cyd-greu a’u cyd-ddylunio ag Eco-Sgolion Cymru, i gefnogi'r profiad trawsgyfrwng epig.

Gellir cyrchu gweithgareddau pob diwrnod isod, ac maent yn rhad ac am ddim i'w defnyddio fel y dymunwch. Efallai y byddwch chi a’ch dosbarth yn creu eich Wythnos yn y Dyfodol eich hun, neu gallech ddefnyddio’r adnoddau i alluogi’ch dysgwyr i feithrin cysylltiadau ar draws eu profiad dysgu. Gallech hyd yn oed gyfuno ein gweithgareddau gyda’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eisoes yn cael eu profi yn eich ystafell ddosbarth eich hun. Mae'r pŵer yn eich dwylo chi.

Dadlwythwch adnoddau y ysgolion.


Roedd y gwersi’n cynnwys cyfweliadau rhyngweithiol a holi ac ateb gyda gwesteion arbennig, gweithgareddau difyr i ddisgyblion a chipolwg i’r dyfodol trwy gynnwys stori ddigidol GALWAD. Anogwyd disgyblion i archwilio a chwestiynu beth fydd y dyfodol yn ei olygu i’w hysgolion, eu cymunedau a’u bywydau. Cawsant eu cyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ac roeddent yn addas ar gyfer disgyblion 7-11 oed ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal â’r gweithgareddau a’r fideos oedd wedi’u cynnwys yn y Gwersi Byw, crëwyd ystod o daflenni gweithgareddau i athrawon eu cyflwyno yn y dosbarth dros gyfnod o wythnos. Mae pob taflen yn cynnwys agwedd wahanol ar themâu’r dydd ac yn cynnwys gwybodaeth gefndir ar y pwnc, dolenni i adnoddau, mapio’r cwricwlwm a syniadau am weithgareddau ymarferol.

Mae arloesedd a chreadigrwydd wrth galon y pecyn cyffrous hwn. Dewiswch y cynnwys y credwch fydd yn ysgogi dysgu a chanlyniadau gwell i'ch dysgwyr, a defnyddiwch eich sgiliau proffesiynol i gyfuno dysgu ystyrlon o wahanol feysydd, disgyblaethau a chysyniadau.

Dim ond meddwl am y dyfodol yr ydym am ei adeiladu