Go Tell the Bees
Go Tell the Bees
Wrth wraidd Go Tell the Bees yw’r gobaith y gallwn, trwy weithredu, ddysgu gan ein gilydd, magu hyder a sgiliau a phrofi trwy’r holl synhwyrau.
Rydym am i’r cynhyrchiad hwn gael effaith gadarnhaol ar gymunedau. Mae dysgu mewn ffordd weithgar a llawn dychymyg yn hanfodol i hyn.
Gall disgyblion archwilio ein cysylltiad â’r byd naturiol a gyda’n gilydd trwy adnoddau o wybodaeth a gweithgarwch NTW TEAM ac wedi’i ysbrydoli gan 7 Gweithred Syml.
Mae'r Ystorfa Ddysgu, a welir ar Hwb, wedi’i chreu i ategu’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a ddatblygwyd gan chwe ymarferydd creadigol gyda thri athro ymgynghorol.
![Darlun o berson gyda swigen feddwl uwch ei ben yn cynnwys darluniau o ddeinosor, robot, seren saethu, planed, balŵn a mwy.](https://dhevxnsjbs7nt.cloudfront.net/_imager/files/2-TEAM/34268/Imagination_8c7d5dca2a83bce81cd5dacc4cb249a6.jpeg)
Cymerwch ran yn ein gweithdy ysgolion rhad ac am ddim yn seiliedig ar ein Hystorfa Ddysgu Go Tell the Bees
Dros y flwyddyn i ddod, mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill i ymgysylltu â chymunedau ledled Caerdydd, diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Caerdydd.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn cynnig gweithdai am ddim i ysgolion cynradd i ddisgyblion 7-11 oed o 3 Mehefin - 22 Gorffennaf yn seiliedig ar rai o'n hadnoddau addysgol ar-lein. Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu haddasu i weddu i anghenion y disgyblion yr hoffech iddynt gymryd rhan.
Cysylltwch ag Abena, ein Cydlynydd Pobl Ifanc neu Rachel, ein Cynhyrchydd Cydweithio i archebu gweithdy neu ddarganfod rhagor.