Mametz

Mae dwy o sioeau mwyaf eiconig National Theatre Wales; Mametz gan Owen Sheers a The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price, bellach wedi’u cynnwys ar Faes Llafur Drama Safon Uwch CBAC.

Cafodd y cynhyrchiad safle benodol hwn ar raddfa fawr ei berfformio mewn coetir hynafol ger Brynbuga, Sir Fynwy, a rhoddodd cipolwg byw i’r gynulleidfa ar fywyd – a marwolaeth – yn ffosydd a chaeau brwydro’r Somme.

Wedi’i ysbrydoli gan gerdd yr awdur Cymreig Owen Sheers, Mametz Wood, roedd yn defnyddio deunydd ysgrifenedig gan rai o’r beirdd fu’n ymladd yn un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Somme, neu â’i gwelodd, Brwydr Mametz Wood, lle cafodd 4,000 o’r 38fed Llu (Cymreig) eu lladd neu eu hanafu.

Mae Mametz yn dod o dan Uned 4 eich astudiaethau Safon Uwch: Testun mewn Perfformiad

I gefnogi myfyrwyr sy’n astudio’r testun (a’r cynyrchiad gwreiddiol), mae tîm creadigol wedi rhannu eu profiadau gyda ni.

Yn yr uned hon, bydd angen i chi astudio dau destun cyflawn a gwybod y ddau yn eu cyfanrwydd. Gofynnir ichi ddangos eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau wrth ddehongli testunau ar gyfer perfformiad ac i wneud hyn drwy arholiad ysgrifenedig. Pan ewch ati i astudio’r uned hon dylech wneud hynny mewn dwy ffordd – yn gyntaf, mewn ffordd ymarferol, fel petaech chi yw’r actor, y cyfarwyddwr neu ddylunydd y ddrama ac yn ail, fel aelod gwybodus o gynulleidfa theatr.

Rhaid ichi gofio eich bod yn cael eich asesu ar ddau beth:

  1. Y gallwch ddangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut y mae theatr yn cael ei chreu a’i pherfformio
  2. Eich bod yn gallu dadansoddi a gwerthuso gwaith pobl eraill.

Adnoddau fideo

Rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau fideo a’r ymarferion ategol hyn yn eich helpu wrth i chi astudio Mametz.