The Radicalisation of Bradley Manning

Mae dwy o sioeau mwyaf eiconig National Theatre Wales; The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price a Mametz gan Owen Sheers, bellach wedi’u cynnwys ar Faes Llafur Drama Safon Uwch CBAC.

Mae The Radicalisation of Bradley Manning wedi’i hysbrydoli gan stori Chelsea Manning (a aned yn Bradley Manning), y cyn-filwr UDA a gyhuddwyd o ryddhau 250,000 o geblau llysgenhadol a logiau milwrol cyfrinachol o ryfeloedd Irac ac Afghanistan. Pan ysgrifennwyd y ddrama, roedd Manning wedi treulio tair blynedd yn y carchar heb gael ei chyhuddo ac yn disgwyl dedfryd, wedi’i dyfarnu’n euog o droseddau a allai arwain at garchar am oes. Ond ychydig yn unig o flynyddoedd cyn hynny, roedd Manning yn arddegwr yn byw yng ngorllewin Cymru. Sut ddigwyddodd hyn? A phwy sy’n gyfrifol am ei radicaleiddio?

I gefnogi myfyrwyr sy’n astudio’r testun (a’r cynyrchiad gwreiddiol), mae tîm creadigol wedi rhannu eu profiadau gyda ni, gyda ffocws ar y cwestiynau canlynol:

  1. Fel cyfarwyddwr, pa benderfyniadau a wnaethoch o ran cyflwyno’r ddrama i’w pherfformio, gan ganolbwyntio ar ryngweithio rhwng cymeriadau a symud?
  2. Beth oedd yr heriau a wnaethoch eu hwynebu fel actor yn chwarae eich rôl, gan ganolbwyntio ar gymeriadu lleisiol a chorfforol, cymhelliant a rhyngweithio ag eraill?
  3. Fel cynllunydd, cyfarwyddwr neu reolwr cynhyrchu, pan ddulliau a wnaethoch eu defnyddio i lwyfannu’r darn, gan ganolbwyntio ar set, gwisgoedd, goleuo, sain a lleoli’r cymeriadau? Cliciwch ar y lincs isod i weld cyfweliadau unigryw gyda’r timau creadigol y tu ôl i’r cynyrchiadau gwreiddiol.

Adnoddau fideo

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda John E McGrath, y dylunydd, Tim Price yr ysgrifennydd, Chloe Lamford a'r actorion Matthew Aubrey a Gwawr Loader.


Er mwyn helpu i astudio The Radicalisation of Bradley Manning, rydym yn meddwl ei bod yn bwysig bod athrawon a myfyrwyr yn siarad am hunaniaeth ac ymwybyddiaeth Draws. Mewn bywyd go iawn, Bradley Manning yw Chelsea Manning.

Pan fyddwn yn cyfeirio at Bradley Manning, rydym yn cyfeirio at y cymeriad yn y ddrama. I gyfoethogi eich dealltwriaeth o’r ddrama, a hunaniaeth rhywedd, rydym wedi creu’r adnoddau canlynol gyda mgynghorydd Traws Kay R. Dennis a cyfarwyddwr theatr, hwylusydd ac ysgrifennwr, Nerida Bradley.

Mae cyfweliadau gyda Kay a Nerdia yn yr is-dudalen adnoddau fideo.