We're Still Here

Gwaith Dur Port Talbot; safle diwydiannol trwm olaf Cymru, a fu dan fygythiad cael ei gau yn 2015. Aeth y stori i’r penawadau newyddion ar draws y byd, a cododd ymgyrch Save Our Steel’ fomentwm o fewn dim, gan ddal ysbryd ac ymgorffori ansicrwydd ein hoes.

Yn seiliedig ar gyfweliadau gyda gweithwyr dur, cynrychiolwyr yr undeb a phobl Port Talbot, roedd We’re Still Here yn berfformiad sy’n benodol i’w safle. Wedi ei leoli mewn man deinamig yn hen Weithfeydd Byass, roedd yn dathlu ysbryd unigryw y dref.

Trwy garedigrwydd Amnesty International UK, gallwn gynnig un o’u cynlluniau gwersi ar gyfer ysgolion i’w lawrlwytho: The Power of Our Voices.

Mae’r cynllun hwn wedi’i greu’n arbennig i ddangos i fyfyrwyr sut mae artistiaid wedi defnyddio eu geiriau a cherddoriaeth i sefyll dros hawliau dynol ac ymladd dros newid. Trwy weithio drwy’r cynllun a defnyddio eu sgiliau mewn iaith a llythrennedd, cyflwyniad grŵp a meddwl yn feirniadol, bydd myfyrwyr yn cryfhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r frwydr dros hawliau dynol, ac yna’n gweithredu’n greadigol trwy ddatblygu eu cân brotest eu hunain.


Adnodd fideo

Fel adnodd pellach i ysgolion, rydym wedi gwneud ffilm fer – The Making of We’re Still Here – sy’n cynnwys cyfweliadau gyda’r cyfarwyddwyr a’r cast lle maent yn siarad am greu darn o waith safle-benodol.