Sut byddwn ni’n creu gwaith
Sut byddwn ni’n creu gwaith
Mae’r broses o greu theatr yn wahanol bob tro – boed rhywun yn creu darn ar safle penodol sydd i’w berfformio mewn tref gyfan, neu’n cyflwyno darn o ysgrifennu newydd mewn theatr stiwdio. Does dim un ffordd benodol o fynd ati i greu prosiect.
Ar ôl dweud hynny, rydyn ni’n credu mewn cael prosesau tryloyw sy’n sicrhau bod cwmnïau fel ni mor agored â phosibl â’n cynulleidfaoedd ac â’n hartistiaid.
Gan hynny, dyma rannu ein proses ar gyfer creu ein gwaith a’r siwrnai y bydd ein hartistiaid a’n staff yn ei dilyn.
Sut i gysylltu â ni
Os wyt ti’n awyddus i gael cymorth neu gomisiwn gan NTW, dyma’r ffyrdd gorau o gysylltu â ni:
- Gwahodda ni i weld dy waith. Tîm bach ydyn ni, ond byddwn ni’n ceisio gweld cymaint o bethau â phosibl.
- Dalia ati i roi gwybod i’n tîm Cynhyrchu ynghylch beth rwyt ti’n ei wneud neu’n ei ddatblygu. Mae ein holl gyfeiriadau e-bost ar ein tudalen staff, felly cer i gael golwg ac anfona neges aton ni.
- Mynd i ddigwyddiadau TEAM.
Sut byddwn ni’n cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau
Rydyn ni’n cael pob math o sgyrsiau difyr ag artistiaid. Bydd y rhain yn digwydd yn ein sioeau, yn nigwyddiadau a gweithdai TEAM, ac yn nigwyddiadau’r sector celfyddydau.
Bob blwyddyn, byddwn ni’n dechrau gweithio ar 4-5 comisiwn sbarduno newydd, ac ar 2-3 comisiwn newydd llawn. Byddwn ni’n creu 3 chynhyrchiad llawn bob blwyddyn, ac yn cadw lle ar gyfer pedwerydd prosiect posibl; gallai hwn fod yn ailberfformiad o waith sy’n bodoli’n barod, yn ŵyl, neu’n ddarn sy’n ymateb yn y fan a’r lle i anghenion cymunedau yng Nghymru.
Byddwn ni’n cynllunio ein rhaglen hyd at 5 mlynedd ymlaen llaw, a bydd y rhan fwyaf o brosiectau’n datblygu dros 3-6 mlynedd. Felly cadwa hynny mewn cof wrth gysylltu â ni am gyfleoedd posibl i gydweithio a chael cymorth. Bydd pob darn o waith y byddwn ni’n bwrw ymlaen i’w greuyn cyd-fynd â’n Cynllun Strategol ac â’n hamserlenni.Byddwn ni’n rhoi cymorth i’w ddatblygu hyd at bwynt lle bydd yn barod i’w roi gerbron cynulleidfa.
Byddwn ni’n cynnal dau fath o gyfarfod rheolaidd sy’n effeithio ar ein dewisiadau wrth raglennu:
- Cyfarfodydd Cynhyrchu a Datblygu Creadigol, lle byddwn ni’n sgwrsio am y sioeau rydyn ni wedi’u gweld, yr artistiaid rydyn ni wedi’u cwrdd, a’r syniadau sydd wedi’u cyflwyno i ni.
- Cyfarfodydd rhaglennu lle byddwn ni’n trafod sioeau’r dyfodol ynghyd â chynyrchiadau newydd posibl.
Os na fydd dy syniad di’n cyd-fynd â’n Cynllun Strategol, rydyn ni ar gael i dy gyfeirio at bartneriaid eraill, at ffynonellau arian eraill, ac at ffyrdd eraill o fwrw ymlaen â dy brosiect neu syniad.
Diwedd y gân yw’r geiniog
Comisiynau
Cynyrchiadau llawn yw’r rhain sy’n cynnwys camau Ymchwil a Datblygu.
Byddwn ni’n talu £5,168 i artistiaid wrth lofnodi’r contract.
Byddwn ni’n talu £2,350 ar ôl cael y drafft cyntaf.
Byddwn ni’n talu £2,350 pan fydd y sioe’n agor.
Mae ein cyfraddau tâl wedi’u gosod gan y Writer’s Guild.
Byddwn ni hefyd yn talu £130 y diwrnod yn ystod y broses ddatblygu, ynghyd â chostau teithio, costau treuliau a chostau hygyrchedd
Comisiynau sbarduno
Mae gennyn ni bot o arian i artistiaid ar gyfer datblygu syniadau yn y cyfnod cynnar iawn.
Byddai’r artist yn datblygu rhywbeth i’n helpu ni i benderfynu a ydyn ni eisiau bwrw ymlaen â’i syniad.
Byddwn ni’n talu £2,584 am y gwaith ysgrifennu ac archwilio, ynghyd â chostau teithio, costau treuliau a chostau hygyrchedd.
Gyda chymorth gan
Mae gennyn ni raddfa lithro o gyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau nad ydyn ni’n eu cynhyrchu, ond rhai rydyn i’n awyddus i’w cynorthwyo yn ariannol. Bydd y swm yn dibynnu ar y prosiect, ar yr artist, ac ar yr angen.Mae hyn ar gyfer artistiaid y mae gennyn ni eisoes berthynas â nhw, neu rai sydd wedi gweithio gyda ni o’r blaen.
Gyda diolch i
Cymorth nad yw’n ariannol – sef pethau am ddim.Gallai hyn olygu cymorth i gynhyrchu a marchnata, y defnydd o’n swyddfa neu adnoddau technegol, neu fenthyg ein cyfarpar.
Dydyn ni ddim yn disgwyl dim byd yn ôl am hyn, ar wahân i logo ar boster neu ddiolch mewn rhaglen efallai.