Cysylltu
Cysylltu
Os hoffet ti gysylltu â ni, os oes gennyt ti gwestiwn, neu os hoffet ti roi rhywfaint o adborth inni, anfona neges neu rho alwad inni.
Drwy e-bost
Dros y ffôn
+44 (0)29 2252 8171
(Llun - Gwener, 10am - 5pm)
Ein cyfeiriad cofrestredig
National Theatre Wales, Tramshed Tech, Unit D, Pendyris St, Caerdydd, CF11 6BH
Adborth
Rydyn ni’n croesawu pob darn o adborth – yn dda ac yn ddrwg. Os am ganmol neu gwyno, fe fyddwn ni’n gwrando, ac yn trosglwyddo’r neges i’r unigolyn perthnasol, gan ymateb yn y ffordd iawn.
Os byddi di’n anfon e-bost aton ni, fe wnawn ni ein gorau glas i ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Sut mae cysylltu â rhywun yn y tîm?
Mae ein holl gyfeiriadau e-bost ar gael ar ein tudalen staff, felly os wyt ti’n gwybod â pha adran neu unigolyn rwyt ti am gysylltu, cer i’r dudalen ac anfona neges.
Os oes gen ti ddiddordeb yn ein gwaith cymunedol, cysyllta â’n tîm Cydweithio.
A oes modd siarad â rhywun yn Gymraeg?
Oes, fe fydden ni wrth ein boddau yn clywed gennyt ti yn Gymraeg. Mae siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn y tîm, felly fe fyddwn ni wastad yn ceisio ymateb yn yr iaith rwyt ti’n dewis ei defnyddio.
Os ydych chi'n dod i gyfarfod lle hoffech chi sgwrsio gyda ni yn Gymraeg, gofynnwch a chwi a gewch.
Rydw i’n awdur. A oes modd anfon fy sgript atoch chi?
Rydyn ni’n gofyn yn garedig i bobl beidio ag anfon sgriptiau aton ni os nad ydyn ni wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Mae gennyn ni gyfleoedd fel Play On, a byddwn ni’n cyhoeddi galwadau agored am sgriptiau drwy’r cynlluniau hyn. Cadwa olwg ar ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol, neu cofrestra i gael ein cylchlythyr er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am y rhain.
Rydw i’n awyddus i fagu profiad yn gweithio ym maes y theatr. Ydych chi’n cynnig lleoliadau gwaith?
Dydyn ni ddim yn cynnig rhaglen sefydlog o leoliadau ar hyn o bryd. Rydyn ni am newid hynny. Mae ein tîm yn brysur yn gweithio ar y lleoliadau, interniaethau a rhaglenni gwirfoddoli newydd fydd yn cefnogi'r rhai sydd â rhwystrau i wirfoddoli. Cadwch lygad ar agor...