About Paned i Ysbrydoli

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Paned i Ysbrydoli mis Medi: Pwy sy’n ofni bod yn ‘greadigol’?

Ar gyfer Paned i Ysbrydoli'r mis hwn, mewn partneriaeth â NTW TEAM, bydd Shirish Kulkarni, newyddiadurwr, ymchwilydd a threfnydd cymunedol, yn ymuno ag Alun Llwyd o lwyfan creadigol AM, Carys Bradley-Roberts o Gaerdydd Creadigol a Amira Hayat i archwilio pam mae llawer ohonom yn ei chael hi'n anodd galw ein hunain yn 'greadigol'.

Os nad yw hyd yn oed pobl greadigol yn teimlo’n gyfforddus yn galw eu hunain yn ‘greadigol’, sut allwn ni ddisgwyl i unrhyw un arall wneud hynny? Ac os na allwn feddwl amdanom ein hunain yn greadigol, yna sut mae hynny’n dylanwadu ar y cwestiynau mwy yr ydym yn eu gofyn, ynghylch sut y gallem adeiladu’r math o ddyfodol i gymdeithas yr ydym eisiau bod yn rhan ohoni?

Yn y sesiwn ryngweithiol hon, byddwn hefyd yn cyflwyno cydweithrediad rhwng Caerdydd Creadigol, NTW TEAM* ac AM a fydd, gobeithio, yn cael pawb i feddwl am eu perthynas â chreadigedd ac efallai hyd yn oed yn galw eu hunain yn ‘greadigol’!

*Cefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, a weinyddir gan Gyngor Caerdydd.

*Supported by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund, which is being administered by Cardiff Council.

Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.