O.G. Prince of Wales
About O.G. Prince of Wales
Perfformiad cyngerdd sgript-mewn-llaw o sioe gerdd fawr newydd gan Seiriol Davies
Mae O.G. Prince of Wales yn stori ramant cwiar epig am Owain Glyndŵr a Harri V, gyda chleddyfau a dewiniaeth. Mae'r rebel o Dywysog a'r Brenin eneiniog yn mynd benben â'i gilydd mewn sioe gerdd newydd ddoniol a theimladwy am yr ymdrech fwyaf dynol honno: yr ymgais i ddarganfod pwy ydyn ni ac i ble rydyn ni'n perthyn.
Ymunwch â ni ar gyfer cam cyntaf taith y sioe gerdd fawr newydd hon gan Seiriol Davies (How to Win Against History, Milky Peaks, The Messenger a Betty! A Sort of Musical).
___
Datblygwyd gan Theatr y Sherman, wedi’i gefnogi gan National Theatre Wales.
Gyda diolch i Sefydliad John Ellerman am eu cefnogaeth i brosiect Dramayddion Cyswllt NTW, sy’n paru dramayddion gyda’n prosiectau sy’n digwydd yn 2023-2024.
Cast
- Sharif Afifi
- Marc Antolin
- Seiriol Davies
- Emily Ivana Hawkins
- James Ifan
- Emmy Stonelake
- Rhys Taylor
Y tîm creadigol
- Cerddoriaeth, Geiriau a Llyfr
- Seiriol Davies
- Dramatwrg a Chyfarwyddwr
- Joe Murphy
- Cyfarwyddwr Cerdd
- Leo Munby