About TEAM Exchange: Wrecsam

Yr ail yn ein cyfres o Gyfnewidiadau TEAM, ymunwch â ni i ddathlu Wrecsam hynod a helpwch ni i feithrin sgwrs am sut y gallwn gysylltu’n well â’n gilydd, tra’n maethu ein rhwydwaith creadigol.

Dan ofal Chris Ingram a Martin Daws, rydym yn cymryd drosodd y lleoliad cerddoriaeth eiconig The Rockin' Chair gyda'r artistiaid lleol Duoplus, Isabella Crowther, Yasmine Latowski a Geepers Creepers and the Cosmic Babes.

Ym mis Tachwedd 2022, roedd strydoedd canol y dref yn fyw gyda'r caneuon protest ac ysbryd cynhyrchiad NTW TEAM, A Proper Ordinary Miracle, sioe ar gyfer a gan bobl Wrecsam. Roedd hyn yn benllanw pum mlynedd o ymgysylltu lleol – o’r gymuned ddigartref i fyfyrwyr, artistiaid rap i corau. Croesawn hefyd y Beggar Band, a ddaith â’r sioe i ben ar sgwâr Henblas, i aduno ar y llwyfan unwaith eto.

Nawr rydym angen eich help i fyfyrio, cynllunio a phartio wrth i ni edrych at 2023 ... a thu hwnt.