About The City Socials

Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym myd y theatr

Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan NTW TEAM. Maent yn ddigwyddiadau hwyliog a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ddod ag artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac ar ddechrau eu gyrfa a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr ynghyd i sgwrsio, rhannu, cwyno a thraethu.

Bydd cyfleoedd i bobl rannu meddyliau a syniadau, a chyflwyno gwaith newydd. Bydd yr artistiaid neu'r grwpiau preswyl llwyddiannus yn rhannu eu gwaith ar y gweill fel rhan o'r digwyddiadau hyn.

Rhannwch lwyddiannau a brwydrau adeiladu gyrfa yn y celfyddydau a dewch i adnabod eich cyd-gymuned. Drwy gydol y noson, gallwch ddisgwyl:

  • Perfformiad o'r newydd gan un o'n hartistiaid preswyl
  • Cyfleoedd rhwydweithio
  • Gweithdai cyffyrddiad ysgafn

Bydd bwyd a diodydd di-alcohol yn cael eu darparu i ysgogi sgwrs.

Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y noson gyfan.

Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa. Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol.

Darpariaeth mynediad

Mae'r Sustainable Studio yn hygyrch i gadeiriau olwyn


Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.

Dewis dyddiadau ac archebu

  • The Sustainable Studio

    Archebu nawr
  • Lleoliad TBC

    Yn dod yn fuan
  • Lleoliad TBC

    Yn dod yn fuan
  • Porter's, Caerdydd

    Yn dod yn fuan