About The City Socials: Paul Kolomon Kaiba

Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym myd y theatr

Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan NTW TEAM. Maent yn ddigwyddiadau hwyliog a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ddod ag artistiaid a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr ynghyd i sgwrsio, rhannu, cwyno a thraethu.

Rhannwch lwyddiannau a brwydrau adeiladu gyrfa yn y celfyddydau a dewch i adnabod eich cyd-gymuned. Drwy gydol y noson, gallwch ddisgwyl:

  • Perfformiad o'r newydd gan un o'n hartistiaid preswyl
  • Cyfleoedd rhwydweithio
  • Gweithdai cyffyrddiad ysgafn
  • Cyfleoedd i chyflwyno gwaith newydd

Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y noson gyfan.

___

Darpariaeth mynediad

Bydd pob lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa. Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol.



Artist Preswyl: Paul Kolomon Kaiba

Bydd y cyfarwyddwr theatr a ffilm, awdur a dramaydd, Paul Koloman Kaiba yn datblygu darn o theatr sy'n canolbwyntio ar ddau naratif cyfochrog i amlygu'r cysylltiad hanesyddol rhwng y dosbarth gweithiol Cymreig a'u cymheiriaid yn yr Wcrain.




Nodyn am National Theatre Wales

Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.


Dewis dyddiadau ac archebu

  • Archebu nawr