The City Socials: Jesse Briton & The Cardiff Hongkongers
About The City Socials: Jesse Briton & The Cardiff Hongkongers
Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym myd y theatr
Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan NTW TEAM. Maent yn ddigwyddiadau hwyliog a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ddod ag artistiaid a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr ynghyd i sgwrsio, rhannu, cwyno a thraethu.
Rhannwch lwyddiannau a brwydrau adeiladu gyrfa yn y celfyddydau a dewch i adnabod eich cyd-gymuned. Drwy gydol y noson, gallwch ddisgwyl:
- Perfformiad o'r newydd gan un o'n hartistiaid preswyl
- Cyfleoedd rhwydweithio
- Gweithdai cyffyrddiad ysgafn
- Cyfleoedd i chyflwyno gwaith newydd
Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y noson gyfan.
___
Darpariaeth mynediad
Bydd pob lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa. Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol.
Artist Preswyl: Jesse Briton & The Cardiff Hongkongers
Bydd y gwneuthurwr theatr, Jesse Briton yn gweithio gyda Hong Kongers Caerdydd i ddatblygu Marginal Worlds (teitl dros dro) yn archwilio alltudion gyfoes Cardiff Hong Kongers.
Nodyn am National Theatre Wales
Wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, rydym yn parhau i gefnogi gwneuthurwyr theatr, artistiaid a phobl greadigol drwy raglenni NTW TEAM a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.
Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys lansio mentrau newydd NTW TEAM: Young Collective, TEAM Collective, cyfnodau preswyl i artistiaid a chyfres o ddigwyddiadau o'r enw The City Socials. Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros yr wythnos nesaf. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ar gyfer y digwyddiadau nesaf.