About Up My Street

Prosiect 'Team Collective' gyda Julia Thomas

Dewch am dro i lawr Heol y Frenhines ar daith ymdrochol lle mae ffuglen, hanes a phethau bob dydd yn gwrthdaro. Mae Up My Street yn dathlu stryd yng nghanol Caerdydd, lle mae straeon newydd yn cael eu geni bob dydd.

O fawredd di-raen Canolfan Siopa Capitol – a fu unwaith yn symbol o siopa modern – i bresenoldeb pwerus cerflun Aneurin Bevan, lle mae torfeydd yn ymgynnull i sefyll dros yr hyn sy’n bwysig, mae gan Heol y Frenhines lawer mwy i’w ddweud nag y byddech yn ei ddisgwyl.

Dyma gyfle i brofi’r haenau o hanes, yr eiliadau a ddiffiniodd y stryd, a’r bobl y mae eu lleisiau’n atseinio trwy amser. Crëwyd gyda chyfranogwyr Invisible Cities a phrosiect Story y Wallich sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

Gwybodaeth

Y Daith

Bydd y daith yn cychwyn am 2.30pm wrth gerflun Nye Bevan (sydd wedi’i leoli ar ochr y Castell o Heol y Frenhines) – gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd o leiaf 10 munud cyn dechrau’r daith.

Bydd y daith yn dod i ben yn yr hyb Wcreineg yng Nghanolfan Capitol tua 4pm.

Cofiwch wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd, gan y bydd llawer o'r daith y tu allan.

Mae'r daith i gyd ar draws arwyneb gwastad, a dylai fod yn gwbl hygyrch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at ein cydlynydd Rachel ar racheljohn@nationaltheatrewales.org

Gofynion

Byddwn mewn cysylltiad y diwrnod cyn y digwyddiad gyda dolen i adnodd sain a PDF y bydd angen i chi ei lawrlwytho i'ch dyfais ar gyfer y daith.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â chlustffonau gyda chi, a ffôn neu lechen wedi'i wefru'n llawn er mwyn gwrando. I fod yn sicr, byddem yn argymell dod â gwefrydd cludadwy os nad yw oes eich batri yn dda iawn.

Dewis dyddiadau ac archebu

  • Archebu nawr