Anastacia Ackers
Actor, ymarferydd theatr, awdur a hwylusydd wedi’i lleoli ger Wrecsam yw Anastacia Ackers, sy’n frwd dros ddefnyddio’r celfyddydau fel catalydd ar gyfer newid cymdeithasol. Mae Anastacia wedi siarad mewn digwyddiadau ar gyfer Arts & Homelessness International ac yn gweithio gydag Outside Lives LTD yn yr Wyddgrug ar eu prosiectau cymunedol.
Mae Anastacia hefyd yn Gadeirydd Panel TEAM ac yn Gydymaith Creadigol TEAM yn Wrecsam, lle mae’n chwarae rhan allweddol mewn trefnu a hwyluso digwyddiadau a gweithdai creadigol wrth i’n cynhyrchiad Wrecsam 2022 gael ei wireddu.