Bethan Marlow
Awdur o’r gogledd yw Bethan Marlow, ac mae hi wedi ennill gwobrau niferus am ei gwaith.
Mae ei gwaith theatr sydd wedi cael cryn glod yn cynnwys PIGEON (Theatr Iolo/Theatr Genedlaethol Cymru), MOLD RIOTS (Theatr Clwyd) a NYRSYS (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae gan Bethan waith comisiwn ar y gweill gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Bethan yn datblygu cyfres ddrama wreiddiol i’r teledu ar gyfer Five Acts, World Productions a Film Nation. Mae hefyd yn gweithio ar ddwy ffilm nodwedd a fydd yn hwb i’r galon: MADISON gyda’r BFI a IEIE Productions a QUEER AS FOLK DANCING gyda Ffilm Cymru ac Ardimages UK.
Dewiswyd Bethan yn ddiweddar ar gyfer y Wscripted Cannes Screenplay List a chynllun mentora BAFTA x BFI Flare.