Büşra Algeç
Helo! Fy enw i yw Büşra ac rwy'n dod o Dwrci. Mae'n well gan bobl fy ngalw'n Bee. Rwy'n weithiwr proffesiynol 28 oed ac yn disgrifio fy hun fel "tipyn bach o lawer o bethau ond dim byd" - dwi'n credu bod rhywun yn dod yn "rhywbeth" wrth weithio gydag eraill.
Astudiais Beirianneg Ddiwydiannol yn y brifysgol, gwnes i Erasmus yng Ngwlad Pwyl, bum yn byw a gweithio yn India a symud i Gorea. Rydw i wedi teithio o gwmpas 35 o wledydd ac wedi cwrdd â channoedd o bobl, yn gwrando ar eu straeon a deall bod cymaint i'w ddysgu a chymaint o bethau sydd angen sylw. Pan ddychwelais i Dwrci, sefydlais gymdeithas a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cymunedau ac i rymuso pobl ifanc.
Des i'r DU am interniaeth am 3 mis dim ond 4 wythnos cyn i'r cyfnod clo cyntaf daro. Aeth fy ffrind â mi i Gymru ar daith ffordd, ac yn fuan wedyn, daeth yn gartref i mi. Doeddwn i byth yn gwybod fy mod yn gerddorol, yn greadigol neu fod gen i dalent, ond fe brynais ffliwt a newidiodd fy mywyd. Cyflwynodd fi i ryngweithio dynol ar lefel uwch ac edrych ar bethau o safbwynt gwahanol. Fe agorodd gymaint o wahanol lwybrau i mi eu cymhwyso yn fy ngwaith:
- cydweithio â sefydliadau a datblygu prosiectau
- hwyluso gweithdai a chyflwyno cyrsiau hyfforddi i rymuso pobl ifanc a'r rhai sydd â llai o gyfleoedd
- mynd i’r afael ag achosion cymdeithasol gyda’r gobaith o greu darlun ehangach lle gall pawb weld eu hunain fel rhan weithredol o gymdeithas.
Roedd cael fy nghyflwyno i greadigrwydd mewn cerddoriaeth wedi cyfrannu at y ffordd yr wyf yn cyflwyno sesiwn drafod, gweithdy neu hyfforddiant.
Fyddai dim o hyn wedi digwydd pe na bawn i wedi dod i Gymru. Mae'r lle hwn yn hudolus gan ei fod yn fwrlwm o greadigrwydd, cerddoriaeth a charedigrwydd. Allwn i ddim bod yn hapusach am adeiladu bywyd yng Nghymru. Ar hyn o bryd rwy'n gwirfoddoli ac yn byw mewn gardd permaddiwylliant ac yn dysgu dulliau garddio cynaliadwy yn Ninas Powys.
Rwy’n gobeithio, trwy’r Young Collective, y caf i weithio gyda phobl sy’n credu yng ngrym cymunedau bach a chreadigrwydd yn y lle hardd hwn.