Dr Annie Beyer
Joy Club CollaboraterMae Dr Annie Beyer (CPsychol, DCounsPsy, PgCert, PgCert Dyniaethau (Open), BSC(Anrh)), yn Seicolegydd Siartredig, yn Seicolegydd Cwnsela cofrestredig gyda'r HCPC ac yn Gadeirydd presennol yr Is-adran Seicoleg Cwnsela yng Nghymru. Mae gan Annie gefndir clinigol mewn iechyd meddwl oedolion ar ôl treulio dros ddeuddeg mlynedd yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl Gofal Eilaidd ledled Cymru a Lloegr. Ar hyn o bryd mae hi’n Uwch Ddarlithydd ar y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Beyer Psychology Services, practis annibynnol lle mae'n darparu goruchwyliaeth glinigol, addysgu, hyfforddi ac ymgynghori.
Mae gan Annie ddiddordeb arbenigol mewn creadigrwydd ac arloesedd, gyda ffocws arbennig ar ddeall a defnyddio creadigrwydd wrth ymarfer Seicoleg, ac ar archwilio’r cyfraniadau amrywiol y gall seicoleg eu gwneud i sefydliadau ac i’r celfyddydau. Y diddordeb trawsddisgyblaethol hwn sydd wedi arwain at waith Annie gydag artistiaid a chymunedau creadigol, gan ddod â gwybodaeth, theori a sgiliau ymarferol y proffesiynau seicolegol i'w helpu i gysyniadu, cynllunio a gwerthuso effaith eu gwaith.
Gweler gwaith Annie yma.