Francesca Dimech
Actor-gerddor dwyieithog yw Francesca Dimech a aned ac a fagwyd yng Nghaerdydd mewn teulu Eidalaidd-Maltaidd. Mae hi wedi bod wrth ei bodd yn ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth ers ennill ei heisteddfod ysgol gyntaf yn chwarae’r glockenspiel yn bedair oed. Ers hynny, mae Francesca wedi bod yn chwarae gitâr, trwmped, bas, harmonica, acordion a chanu gydag amrywiaeth o fandiau lleol o amgylch Cymru, y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae rhai o’i phrosiectau cerddorol presennol yn cynnwys The School (Elefant Records), Quiet Marauder (Bubblewrap Records), a’i sioe gomedi/cabare/gwrth-werin, Francesca’s Word Salad (Rose Parade Recording Company).
Cyfunodd Francesca gerddoriaeth a theatr am y tro cyntaf ar ôl ymddangos yn Rude: A Ska Musical (Give It A Name Theatre) yn 2010 a 2012. Yn y blynyddoedd ers hynny, mae hi wedi gweithio ar gynyrchiadau fel West Side Story, Our House: The Madness Musical, Enough is Enough ac ar y teledu mewn rhaglenni y cynnwys Keeping Faith, Louder is Not Always Clearer, Duty’s Veil, Pobol y Cwm, Amser Maith Yn Ol a The Pursuit of Love. Mae Francesca hefyd yn gweithio fel artist trosleisio, tiwtor Cymraeg ac is-deitlydd teledu.