Gavin Porter
Rwy'n wneuthurwr ffilmiau/dogfennau/theatr o Butetown yng Nghaerdydd.
Rwy'n Gymrawd Clore ac wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Yn fwyaf diweddar, cyfarwyddais ddarn theatr o’r enw Circle of Fifths sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng galar, colled, cerddoriaeth ac sy’n dathlu traddodiad angladdau Butetown. Bu Circle of Fifths ar daith o amgylch Cymru a Llundain.
Rwyf hefyd wedi cyfarwyddo, cynhyrchu a bod yn Gynhyrchydd Cyswllt ar raglenni dogfen ar gyfer y teledu fel Glenn Webbe - Rugby Rebel, Steve Robinson - Cinderella Man, Black Welsh Music a A Killing In Tiger Bay.
Cyn hynny, creais brosiect theatr cyfranogol o’r enw The Big Democracy Project gyda NTW yn gweithio ledled Cymru, gan orffen mewn ‘Gŵyl Democratiaeth’ yn y Senedd.